Mae cynnig amodol, a elwir weithiau yn gynnig dros dro, yn golygu bod yn rhaid i chi fodloni prosesau cymeradwyo. Gallai hynny gynnwys gwiriadau iechyd cyn cyflogaeth, dogfennau sy’n profi’r hawl i weithio, tystysgrifau sy’n berthnasol i’r swydd, gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, neu eirdaon.
Ar y llaw arall, caiff cynnig diamod ei roi heb bennu unrhyw gyfyngiadau neu heb ddisgwyl i chi fodloni prosesau cymeradwyo, oherwydd y cynnig hwn fel rheol fydd y cynnig terfynol y byddwch yn ei gael.