Diweddariad am Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru)

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gohirio gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) tan 1 Rhagfyr 2022 er mwyn rhoi mwy o amser i landlordiaid gwblhau’r paratoadau angenrheidiol.

Mae llawer o waith wedi bod yn digwydd eisoes ar draws timau yn ateb er mwyn bod yn barod ar gyfer yr hen ddyddiad gweithredu (sef 15 Gorffennaf 2022) ond rydym yn ddiolchgar am yr amser ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi’i roi i bawb.

Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, bydd ein Grŵp Prosiect Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) yn adolygu’r cynllun a’r amserlen ar gyfer gweithredu’r Ddeddf.

Byddwn yn sicrhau ein bod yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â phob tîm a chwsmer yn rheolaidd yn ystod yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod wrth i ni nesáu at y dyddiad gweithredu newydd, sef 1 Rhagfyr 2022.

Gallwch weld y wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwefan yma: https://www.atebgroup.co.uk/23643-2/?lang=cy

Cyhoeddwyd: 20/06/2022