Bob blwyddyn byddwn yn adolygu cost rhent a thaliadau gwasanaeth i’n cwsmeriaid, gan wneud yn siŵr ein bod yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a’n bod yn ystyried fforddiadwyedd.
Rydym yn gwybod bod y 12 mis diwethaf wedi bod yn arbennig o anodd i lawer, ac rydym yn cydnabod effaith Covid-19 ar ein cwsmeriaid ac wedi ymrwymo i sicrhau bod costau rhent mor fforddiadwy ag sy’n bosibl.
Rydym wedi penderfynu ailadrodd yr hyn a wnaethom y llynedd, a chynyddu rhent ein ‘heiddo rhent cymdeithasol’ yn unol â’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr yn unig, sef 0.5%. Mae hynny’n cyfateb i oddeutu 30c i 80c yr wythnos, yn dibynnu ar faint yr eiddo a’r math o eiddo yr ydych yn byw ynddo.
Os yw ein cwsmeriaid yn byw mewn ‘eiddo rhent canolradd’, ni fydd eu rhent yn cynyddu o gwbl am yr ail flwyddyn oherwydd ein bod am sicrhau bod rhenti’n fforddiadwy i bawb.
Mae rhagor o wybodaeth am eiddo sydd â math gwahanol o gytundeb i’w gweld yn y cwestiynau cyffredin.
Mae taliadau gwasanaeth yn seiliedig ar gost wirioneddol darparu’r gwasanaeth, a bydd llythyrau unigol am rent yn cynnwys dadansoddiad manwl o’r taliadau hynny. I gael rhagor o wybodaeth am daliadau gwasanaeth, ewch i https://www.atebgroup.co.uk/rhent-2/esbonio-eich-rhent-ach-taliadau-gwasanaethu/?lang=cy
Diolch i bob un o’n cwsmeriaid a gymerodd ran yn ddiweddar mewn arolwg ynglŷn â rhenti ateb, a’r sawl a fynychodd sesiwn o’r fforwm cwsmeriaid er mwyn trafod sut y dylai ateb fynd ati i bennu rhenti eleni. Os hoffech chi fod yn rhan o drafodaethau ynglŷn â sut y mae ateb yn pennu ei renti ac yn sicrhau eu bod yn fforddiadwy, cadwch lygad ar ein gwefan ac ar ein sianelau ar gyfryngau cymdeithasol i weld sut y gallwch wneud hynny.
Dyddiadau allweddol
- Cafodd llythyrau am rent a thaliadau gwasanaeth eu postio ddiwedd mis Chwefror
- Os ydych yn talu bob mis (rhent a thaliadau gwasanaeth), bydd y newidiadau’n dod i rym ar 1 Ebrill 2021
- Os ydych yn talu bob wythnos (rhent a thaliadau gwasanaeth), bydd y newidiadau’n dod i rym ar 5 Ebrill 2021
Cwestiynau cyffredin
Dim ond un swm rwy’n ei dalu bob mis. Ydy hynny’n golygu nad oes gen i unrhyw daliadau gwasanaeth?
Mae eich rhent a’ch taliadau gwasanaeth wedi’u cyfuno mewn un taliad misol. Mae dadansoddiad ohonynt i’w weld yn eich cyfriflen rhent.
Mae’r swm rwy’n ei dalu bob mis wedi cynyddu dros 0.5%. Pam?
Er ein bod yn gallu sicrhau nad yw eich rhent yn cynyddu fwy na 0.5%, caiff eich taliadau gwasanaeth eu cyfrifo ar sail cost y gwasanaeth i ni neu’r swm yr ydym yn rhagweld y bydd y gwasanaeth yn ei gostio. Efallai fod cost rhai o’r gwasanaethau wedi cynyddu dros 0.5%. Mae croeso i chi gysylltu â ni os ydych yn pryderu am y modd y mae eich taliadau gwasanaeth wedi cynyddu.
Nid yw fy rhent wedi cynyddu. Pam?
Mae gan ambell eiddo yr hyn a elwir yn rhent canolradd, ac mae rhenti o’r fath wedi’u rhewi am yr ail flwyddyn (heb gynnwys taliadau gwasanaeth).
Mae fy rhent wedi cynyddu dros 0.5% heb gynnwys taliadau gwasanaeth?
Mae cytundeb prydles a/neu fath arall o gytundeb yn berthnasol i nifer fach o’n cartrefi. Mewn achosion o’r fath, mae’r rhenti wedi’u pennu yn unol â thelerau ac amodau’r cytundeb dan sylw.