Diweddariad am wasanaethau: Dydd Llun 19 Medi.

Bydd gwasanaethau Grŵp ateb ar gau ddydd Llun 19 Medi, yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU y bydd diwrnod angladd y Frenhines yn ŵyl y banc.

Dim ond gwasanaeth atgyweirio mewn argyfwng y byddwn yn ei ddarparu i gwsmeriaid ateb ar y diwrnod hwnnw.

Cofiwch mai dim ond problemau atgyweirio sy’n peryglu bywyd neu’n peryglu adeiladwaith eich cartref y bydd ein gwasanaeth atgyweirio y tu allan i oriau gwaith arferol yn ymdrin â nhw.

Os oes angen i chi roi gwybod am waith atgyweirio mewn argyfwng, bydd gofyn o hyd i chi gysylltu â ni yn yr un ffordd, sef drwy ffonio 0800 854 568.

Byddwn ar agor fel arfer am 9am ddydd Mawrth 20 Medi.

Cyhoeddwyd: 14/09/2022