Diweddariad ar y wefan

Rydym wedi bod wrthi’n brysur yn diweddaru ein gwefan er mwyn sicrhau bod cymaint ag sy’n bosibl o’r cynnwys ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae wedi bod yn brosiect enfawr a hoffem ddiolch i Sian a Heledd yn Cyfiaith, a gyflawnodd y gwaith cyfieithu ar ein rhan, a’r tîm yn Bright Collie, yn enwedig Rebecca, a roddodd gymorth technegol i ni. Fydden ni ddim wedi gallu dod i ben â’r gwaith hebddyn nhw!

Bydd unrhyw beth a ychwanegir at y wefan yn y dyfodol yn ddwyieithog, pryd bynnag y bo modd, wrth i ni barhau i adolygu’r defnydd a wneir o’r Gymraeg ar draws y grŵp.

 

#CyflawniCanlyniadau

#HybuHygyrchedd

#atebiongwelloranbyw