Diweddariad gan Brif Weithredwr grŵp ateb

Helô! Yn y cyfnod anodd a chythryblus hwn, hoffem eich sicrhau y bydd grŵp ateb yn parhau i ddarparu gwasanaethau ac i geisio creu ffyrdd newydd o gynorthwyo’r bobl a’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu yn y gorllewin. Mae eleni wedi bod yn flwyddyn wahanol iawn i bob blwyddyn arall, ac mae wedi rhoi prawf ar ein penderfynoldeb ar y cyd. Ar y llaw arall, rydym hefyd wedi gweld a chlywed am nifer o enghreifftiau ysbrydoledig o bobl yn ymddwyn yn dosturiol ac yn ofalgar tuag at ein cymdogion, ac wedi darganfod ffyrdd arloesol o barhau i wneud mwy. Mae grŵp ateb wedi cyflwyno gwasanaeth lles newydd a chyfleuster trefnu sgwrs fideo ac, wrth gwrs, wedi dod o hyd i ffyrdd diogel o barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol, megis rhoi gwasanaeth i gyfarpar nwy, yn eich cartref. Mae’n bwysig ein bod yn parhau i gadw mewn cysylltiad â chi er mwyn i ni allu ymateb i’r hyn yr ydych yn ei ddisgwyl gennym tra bydd yr argyfwng yn parhau.

Ar ein gwefan fe welwch chi ein hadroddiadau blynyddol newydd, sef Straeon ateb 19/20, Adolygiad Corfforaethol 19/20 a Chynllun Strategol 20/21 i 21/ sy’n gynllun newydd. Mae Straeon ateb 19/20 yn cynnwys rhai straeon gwych am y llynedd, ac mae’n ein hatgoffa am y gwahaniaeth y mae grŵp ateb yn ei wneud ac y mae’n rhaid iddo barhau i’w wneud yn y cyfnod anodd sydd ohoni.

Cofiwch droi at ein gwefan a’n sianelau ar gyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd yn ateb.

Nick