Diwrnod Agored Byw’n Annibynnol – roedd yn braf cwrdd â chi!

Gwnaethom gynnal Diwrnod Agored yn De Clare Court, ein cyfleuster gofal ychwanegol, yr wythnos diwethaf gan groesawu 21 o gwsmeriaid posibl.

Roedd ein Tîm Byw’n Annibynnol wrth law i estyn croeso cynnes, yn ogystal â rhai o’n cwsmeriaid presennol a soniodd am eu profiad nhw o fyw yn ein fflatiau.

Cafodd ymwelwyr gyfle i fwynhau te prynhawn a chyfle i weld rhai o’n fflatiau a’r cyfleusterau’n fwy cyffredinol.

Mae gennym ystod o gartrefi o safon ar gyfer byw’n annibynnol (10) a gwasanaethau cymorth sydd wedi’u teilwra i anghenion ein cwsmeriaid. Maent yn cynnwys dau gynllun gofal ychwanegol sy’n darparu cinio 2 gwrs bob dydd, cyfleusterau trin gwallt, cyfleusterau cyfrifiadurol a gweithgareddau cymdeithasol.

Meddai un o’r ymwelwyr, “Mae’n hollol wahanol i’r hyn yr oeddwn wedi’i ddychmygu; mae’r fflat yn fwy nag yr oeddwn wedi’i feddwl…. Mae’n hollol wahanol i gartref gofal.”

Meddai ymwelydd arall, “Mae’r lle yn olau ac yn groesawgar; gallaf fy ngweld fy hun yn byw yma.”

Os hoffech chi gael gwybod mwy am fyw’n annibynnol, gallwch wylio’r fideo isod a baratowyd gan y tîm y llynedd. Fel arall, mae croeso i chi gysylltu drwy anfon ebost i [email protected] neu ffonio 0800 854568

Cyhoeddwyd: 01/09/2023