“Mae cam-drin domestig yn fwy na chamdriniaeth gorfforol yn unig” – dyma gyfle i chi ddysgu mwy…

Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Ei nod yw sicrhau mai Cymru yw’r wlad fwyaf diogel yn Ewrop i bawb, a thanseilio’r amgylchedd lle mae cam-drin domestig yn digwydd. Un o’i hamcanion yw herio agwedd y cyhoedd at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar draws poblogaeth Cymru drwy godi ymwybyddiaeth.

Yn anffodus, mae cam-drin domestig wedi effeithio ar y rhan fwyaf ohonom mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Po fwyaf o bobl sy’n ymwybodol o gam-drin domestig ac sy’n gwybod sut y mae cyfeirio eraill at sefydliadau a all ddarparu cymorth priodol, y mwyaf diogel fydd ein cymunedau.

Yn ateb, rydym yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ac rydym yn sicrhau bod pob un o’n timau, waeth beth fo’u rôl, yn cael hyfforddiant ymwybyddiaeth ynghylch cam-drin domestig.

Gan weithio mewn partneriaeth â Rhian Hathaway o dîm hyfforddi Lasting Change, gwnaethom gynnal cyfres o sesiynau hyfforddiant ymwybyddiaeth ynghylch cam-drin domestig ar gyfer ein tîm yn ddiweddar, a oedd yn wirioneddol addysgiadol ac a oedd o gymorth i’r tîm ddeall beth yw cam-drin domestig, beth yw’r gwahanol fathau o gamdriniaeth a pha gymorth sydd ar gael.

“Roeddwn yn teimlo bod yr hyfforddiant yn wirioneddol addysgiadol, a gwnaeth i fi sylweddoli bod cam-drin domestig yn fwy na chamdriniaeth gorfforol yn unig. Rwy’n teimlo’n fwy hyderus i allu sgwrsio am hynny a chyfeirio eraill at yr ystod o sefydliadau cymorth sydd ar gael,” meddai un aelod o dîm ateb.

Os ydych chi neu aelod o’r teulu, ffrind neu rywun yr ydych yn poeni amdano/amdani wedi profi cam-drin domestig neu drais rhywiol, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i gael cymorth a chyngor rhad ac am ddim neu i drafod eich opsiynau.

Ffoniwch 0808 80 10 800 neu anfonwch neges destun i 07860 077333

Neu gallwch sgwrsio’n fyw drwy https://www.llyw.cymru/byw-heb-ofn/cysylltwch-byw-heb-ofn

Cyhoeddwyd: 31/03/2023