Rydym am glywed gennych!
Boed yn adborth da neu wael, mae’n bwysig ein bod yn gwybod beth yw eich barn am ein gwasanaeth a sut y gallwn wella.
Awgrymiadau, canmoliaeth ac adborth
Os hoffech wneud awgrym ynghylch sut y gallwn wella, neu roi canmoliaeth neu adborth cyffredinol i ni, llenwch y Ffurflen Ar-lein neu ffoniwch ni ar 0800 854 568 a rhannwch eich barn â ni!
A ydym wedi methu â bodloni eich disgwyliadau?
Os nad ydych yn hapus â gwasanaeth yr ydych wedi’i gael gan ateb, dywedwch wrthym ac fe geisiwn ni gywiro pethau.
Sicrhewch eich bod yn rhoi manylion cyswllt cyfredol i ni fel y gall rhywun gysylltu’n ôl â chi cyn gynted ag y bo modd.
Gallwch wneud hynny mewn pedair ffordd wahanol.
- Drwy lenwi ein ffurflen ar-lein: Ffurflen Gwyno
- Drwy anfon ebost atom: [email protected]
- Drwy ein ffonio: 0800 854568
- Drwy ysgrifennu atom: Adborth, Grŵp ateb, Tŷ Meyler, St Thomas Green, Hwlffordd, SA61 1QP
I gael gwybod sut y byddwn yn ymdrin â’ch cwyn, darllenwch ein taflen arweiniad am Adborth Cwsmeriaid yma.
I gael copi o’n Polisi Adborth Cwsmeriaid, ewch i’n tudalen Dogfennau yma
I gael copi o’n Polisi Adborth Cwsmeriaid, ewch i’n tudalen Dogfennau yma a sgroliwch i waelod y dudalen. Enw’r ddogfen yw Polisi Adborth Cwsmeriaid (PN21).
Cwynion am dasgau atgyweirio – cyngor gan Cartrefi Cymunedol Cymru
Beth y dylech ei wneud os na fydd eich cymdeithas dai wedi datrys problem yn eich cartref.
Adroddiad Adborth Cwsmeriaid
Bob chwarter byddwn yn adolygu ein cwynion i edrych ar dueddiadau yn ein gwasanaethau er mwyn ein helpu i wella.