Adborth

Rydym am glywed gennych!

Boed yn adborth da neu wael, mae’n bwysig ein bod yn gwybod beth yw eich barn am ein gwasanaeth a sut y gallwn wella.

Awgrymiadau, canmoliaeth ac adborth

Os hoffech wneud awgrym ynghylch sut y gallwn wella, neu roi canmoliaeth neu adborth cyffredinol i ni, llenwch y  Ffurflen Ar-lein neu ffoniwch ni ar 0800 854 568 a rhannwch eich barn â ni!

A ydym wedi methu â bodloni eich disgwyliadau?

Os nad ydych yn hapus â gwasanaeth yr ydych wedi’i gael gan ateb, dywedwch wrthym ac fe geisiwn ni gywiro pethau. 

Sicrhewch eich bod yn rhoi manylion cyswllt cyfredol i ni fel y gall rhywun gysylltu’n ôl â chi cyn gynted ag y bo modd.

Gallwch wneud hynny mewn pedair ffordd wahanol.

I gael gwybod sut y byddwn yn ymdrin â’ch cwyn, darllenwch ein taflen arweiniad am Adborth Cwsmeriaid yma.

I gael copi o’n Polisi Adborth Cwsmeriaid, ewch i’n tudalen Dogfennau yma

I gael copi o’n Polisi Adborth Cwsmeriaid, ewch i’n tudalen Dogfennau yma a sgroliwch i waelod y dudalen. Enw’r ddogfen yw Polisi Adborth Cwsmeriaid (PN21).

Cwynion am dasgau atgyweirio – cyngor gan Cartrefi Cymunedol Cymru

Beth y dylech ei wneud os na fydd eich cymdeithas dai wedi datrys problem yn eich cartref.

Adroddiad Adborth Cwsmeriaid

Bob chwarter byddwn yn adolygu ein cwynion i edrych ar dueddiadau yn ein gwasanaethau er mwyn ein helpu i wella.

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →