Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn eich cynnal os yw eich incwm yn isel neu os ydych yn ddi-waith. Mae’n daliad misol i helpu gyda’ch costau byw ac mae’n cynnwys tâl o ran tai i dalu eich rhent.

  • Caiff hawliadau eu cyflwyno ar-lein.
  • Caiff eich costau o ran tai eu talu i chi yn hytrach nag yn uniongyrchol i ateb, a bydd angen i chi dalu eich rhent i ateb bob mis pan fyddwch yn cael eich taliad Credyd Cynhwysol. Os ydych yn poeni am wneud y taliadau hyn eich hun, gallwch ofyn am i’ch tâl o ran tai gael ei wneud yn uniongyrchol i ni. Caiff hynny ei alw’n Drefniant Talu Amgen ac mae’n rhaid bodloni rhai rhesymau i fod yn gymwys.
  • Bydd angen i chi gyflwyno hawliad ar wahân am Ostyngiad y Dreth Gyngor.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar-lein yma

Siaradwch ag aelodau’r Tîm Atebion Ariannol, sef Clayton, Alex, Jess a Sharon, i gael cyngor a chymorth ynghylch cyflwyno hawliad, mynd ar-lein a thalu eich rhent.

Ffôn: 0800 854568  Ebost: [email protected]

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →