Dod o hyd i gartref

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gartrefi sy’n addas i wahanol anghenion ac i deuluoedd o wahanol faint.

Caiff y rhan fwyaf o’n cartrefi fforddiadwy i’w rhentu eu hysbysebu ar wefan Cartrefi Dewisedig. Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion.

Caiff nifer fach ohonynt eu dyrannu drwy Gofrestr Tai Hygyrch Sir Benfro ar gyfer pobl y mae arnynt angen cartref sydd wedi’i addasu.

Mae gennym gartrefi hefyd ar gyfer pobl dros 55 oed y mae arnynt angen llety Byw’n Annibynnol.

Edrychwch ar ein llyfryn ynghylch Cartrefi Byw’n Annibynnol i gael mwy o wybodaeth.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cymaint ag sy’n bosibl o gartrefi fforddiadwy newydd i’w gosod. Gallwch weld beth yr ydym yn ei adeiladu ar ein tudalen am ddatblygiadau.

Rwy’n chwilio am gartref i’w rentu?

I rentu un o’n cartrefi, bydd angen i chi ymuno â’r gofrestr tai.

Y ffordd gyflymaf a hawsaf o wneud hynny yw ar-lein (cliciwch yma), gan ddilyn y cyfarwyddiadau.

Neu gallwch:

Neu gallwch:

  • Ofyn am gopi papur drwy ffonio Cyngor Sir Penfro ar 01437 764551

Rydym yn hysbysebu’r eiddo sydd ar gael gennym ar wefan CartrefiDewisedig@SirBenfro, a phan fyddwch wedi cofrestru gallwch ddechrau cynnig am gartref.

Pan welwch chi gartref sy’n diwallu eich anghenion, gallwch gyflwyno eich cynnig ar wefan CartrefiDewisedig drwy ddefnyddio eich rhif aelodaeth / rhif cynnig personol.

Bydd polisi dyrannu CartrefiDewisedig (sydd i’w weld yma) yn sôn wrthych yn fanwl sut y caiff cartrefi eu dyrannu gan bartneriaid tai CartrefiDewisedig@SirBenfro (sef ni (ateb), Cyngor Sir Penfro a Chymdeithas Dai Wales & West).

  • Os ydych wedi cofrestru eisoes ond bod eich amgylchiadau wedi newid, e.e. bod gan eich teulu aelod newydd, cysylltwch â Chyngor Sir Penfro ar 01437 764551.
Cynllun Gweithwyr Lleol

Weithiau pan fyddwn yn hysbysebu ein cartrefi, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i bobl sy’n weithwyr lleol. I gael gwybod mwy, ewch i’n tudalen ar y we am y Cynllun Gweithwyr Lleol.

Cynllun Gosod Tai i Bobl Leol

Rydym hefyd yn hysbysebu rhai o’n cartrefi newydd gan roi blaenoriaeth i bobl leol. I gael gwybod mwy, ewch i’n tudalen ar y we am y Cynllun Gosod Tai i Bobl Leol.

SaveSave

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →