Mae ein Cynllun Gosod Tai i Bobl Leol yn rhoi blaenoriaeth ychwanegol i gwsmeriaid sydd â chysylltiad lleol ag ardal benodol.
Mae hynny’n rhywbeth y mae’r Cynghorau Cymuned lleol yn gofyn amdano’n aml pan fydd cartrefi newydd yn cael eu datblygu a’u hadeiladu, er mwyn cynnal cymunedau. Er enghraifft, buom yn gweithio’n agos gyda Chyngor Dinas Tyddewi yn ystod y broses gynllunio a chafodd pob un o’r cartrefi yn Sŵn y Môr, Tyddewi eu gosod gan ddefnyddio ein Cynllun Gosod Tai i Bobl Leol.
Beth yw’r meini prawf ar gyfer y Cynllun Gosod Tai i Bobl Leol?
Rhaid:
1 – Eich bod wedi cofrestru’n barod gyda CartrefiDewisedig@SirBenfro
2 – Bod angen cartref arnoch, a rhaid eich bod wedi eich gosod yn y band ARIAN neu’r band AUR neu’ch bod wedi cael cerdyn BLAENORIAETH
3 – Eich bod yn cynnig am gartref sydd o’r maint cywir ar gyfer eich teulu
4 – Eich bod yn byw ar hyn o bryd yn yr ardal a gaiff ei hysbysebu, yn eich unig gartref neu’ch prif gartref, a hynny ers o leiaf 2 flynedd, neu
Eich bod wedi byw o’r blaen yn yr ardal a gaiff ei hysbysebu, yn eich unig gartref neu’ch prif gartref, a hynny am o leiaf 5 mlynedd, neu
Bod gennych berthnasau agos (mam-gu neu dad-cu, rhieni, brodyr a/neu chwiorydd, plant sy’n oedolion) sy’n byw ar hyn o bryd yn yr ardal a gaiff ei hysbysebu, yn eu hunig gartref neu’u prif gartref, a hynny ers o leiaf 5 mlynedd, neu
Bod gennych blentyn sy’n byw ar eich aelwyd ac sy’n mynychu ysgol yn yr ardal a gaiff ei hysbysebu, sydd wedi bod yn yr ysgol ers o leiaf 12 mis, neu
Bod gennych swydd barhaol (o leiaf 16 awr yr wythnos) yn yr ardal ers 12 mis – gall hynny gynnwys gwaith di-dâl ar gyfer y gwasanaethau brys neu wylwyr y glannau.
Sut y byddwch yn gwybod a yw eiddo’n cael ei osod drwy’r Cynllun Gosod Tai i Bobl Leol?
Bydd pob eiddo a gaiff ei osod yn y modd hwn yn cael ei hysbysebu fel eiddo sy’n rhoi blaenoriaeth i bobl sy’n gymwys dan y Cynllun Gosod Tai i Bobl Leol.
A fydd yn rhaid i fi ddarparu tystiolaeth?
Bydd, byddwn bob amser yn gofyn am dystiolaeth. Mae’n bwysig, felly, eich bod yn gwneud yn siŵr eich bod yn gymwys gan ddefnyddio’r meini prawf a restrir uchod.
Rwy’n byw ar gyrion yr ardal sydd wedi’i rhestru. A oes unrhyw ffordd o wirio a wyf yn gymwys?
Os nad ydych yn siŵr, mae croeso i chi gysylltu â ni cyn cynnig am gartref.
Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn cynnig am eiddo dan y Cynllun Gosod Tai i Bobl Leol?
Byddwn yn cysylltu â phawb sydd wedi cynnig am gartref ac sy’n bodloni’r meini prawf, a byddwn yn gofyn iddynt ddarparu tystiolaeth erbyn dyddiad penodol. Yna, bydd y ceisiadau’n cael eu hadolygu a bydd cartrefi’n cael eu cynnig gan ddilyn y drefn ganlynol:
1 – Deiliaid cerdyn blaenoriaeth, yn nhrefn y dyddiad
2 – Yna, ymgeiswyr sydd yn y band AUR, yn nhrefn y dyddiad
3 – Yna, ymgeiswyr sydd yn y band ARIAN, yn nhrefn y dyddiad
Ni fydd angen i chi gysylltu â’r swyddfa i wirio a yw eich cynnig wedi bod yn llwyddiannus, oherwydd byddwn ni’n cysylltu â chi os byddwch yn llwyddiannus.
Rhagor o wybodaeth
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, gallwch anfon ebost i [email protected] neu ein ffonio ar 0800 854 568.