Ydych chi’n gweithio yn Sir Benfro?
Gallai Cynllun Gweithwyr Lleol ateb eich helpu i ddod o hyd i gartref i’w rentu.
Bydd cartrefi sydd wedi’u rhestru ar y rhestr wythnosol o dai dan y pennawd Cynllun Gweithwyr Lleol yn rhoi blaenoriaeth i bobl y mae’r datganiadau canlynol yn wir amdanynt:
- Rwy’n gweithio yn Sir Benfro ac mae cyfanswm incwm blynyddol fy aelwyd yn llai na £60,000
- Nid wyf yn berchen ar gartref
- Rwyf wedi cofrestru’n barod gyda CartrefiDewisedig@SirBenfro
- Nid wyf yn un o denantiaid ateb neu Gyngor Sir Penfro yn barod
Os yw’r 4 datganiad yn wir amdanoch chi, rydych yn gymwys i gofrestru ar gyfer ein Cynllun Gweithwyr Lleol. Dylech lenwi ein ffurflen gais ar gyfer y Cynllun Gweithwyr Lleol a’i dychwelyd gyda’ch tystiolaeth.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â’n Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid drwy anfon ebost i [email protected] neu ein ffonio ar 0800 854 568.
Cwestiynau cyffredin
C: Alla’ i gynnig am gartrefi’r Cynllun Gweithwyr Lleol os byddaf yn anfon ffurflen yn awr?
A: Ni fyddwch yn cael eich rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cartrefi’r Cynllun Gweithwyr Lleol nes y bydd eich cais i gofrestru wedi’i gymeradwyo.
C: Dim ond contract dim oriau sydd gen i. Alla’ i ymuno â’r Cynllun Gweithwyr Lleol?
A: Gallwch, ond bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i ddangos eich bod yn gweithio yn Sir Benfro. Bydd y manylion llawn yn cael eu hesbonio wrth i chi wneud cais.
C: Roeddwn yn arfer gweithio yn Sir Benfro a hoffwn ddychwelyd. Yw hynny’n cyfrif?
A: Nac ydyw. Dim ond pobl sy’n gweithio yn Sir Benfro ar hyn o bryd sy’n gymwys.