Y DRETH YSTAFELL WELY
Yr hyn y mae angen i chi ei wybod am y dreth ystafell wely a’r cap ar fudd-daliadau…
Os oes gennych fwy o ystafelloedd gwely nag y mae Llywodraeth y DU o’r farn bod arnoch eu hangen, bydd eich budd-dal tai neu’r elfen o’ch Credyd Cynhwysol sy’n ymwneud â chostau o ran tai’n cael eu lleihau. Wrth asesu eich hawliad, caniateir i chi gael un ystafell wely ar gyfer:
- Pob cwpl sy’n oedolion.
- Unrhyw berson arall 16 oed neu hŷn.
- 2 blentyn dan 16 oed o’r un rhyw.
- 2 blentyn dan 10 oed, beth bynnag fo’u rhyw.
- Unrhyw blant eraill.
- Gofalwr (nad yw’n byw gyda chi fel rheol) os oes angen gofalwyr dros nos arnoch chi neu ar eich partner.
- Os oes gennych anabledd a bod angen ystafell sbâr arnoch fel bod gofalwr yn gallu aros dros nos, dywedwch wrth eich adran Budd-dal Tai fel y gellir diweddaru eich hawliad am fudd-dal tai.
Ni fydd y dreth hon yn effeithio arnoch os ydych chi neu’ch partner yn ddigon hen i gael credydau pensiwn.
Os oes gennych un ystafell wely ‘sbâr’, bydd 14% o’r swm wythnosol llawn y mae gennych hawl iddo’n cael ei dynnu allan o’ch budd-dal tai. Os oes gennych 2 neu fwy o ystafelloedd gwely sbâr, byddwch yn colli 25% o’ch budd-dal tai/costau o ran tai.
Os bydd eich budd-dal yn cael ei leihau, bydd eich rhent yr un peth o hyd a bydd disgwyl felly i chi dalu’r gwahaniaeth rhwng eich budd-dal tai/costau o ran tai a’ch rhent.
Y CAP AR FUDD-DALIADAU
Yr hyn y mae angen i chi ei wybod…
Ceir cyfyngiad ar gyfanswm y budd-daliadau y gall y bobl sydd yn eich cartref eu cael, ac mae’r budd-daliadau dan sylw’n cynnwys y canlynol:
- Budd-dal tai.
- Lwfans ceisio gwaith.
- Lwfans cyflogaeth a chymorth (oni bai eich bod yn cael yr elfen gymorth).
- Budd-dal plant.
- Credyd treth plant.
- Lwfans gofalwr.
- Credyd Cynhwysol.
Os yw’r cyfanswm yn fwy na’r uchafswm a ganiateir, bydd eich taliadau budd-dal tai/costau o ran tai’n cael eu lleihau.
Ni fydd yn berthnasol i chi os ydych yn cael credyd pensiwn neu gredyd treth gwaith neu os oes rhywun yn eich cartref yn hawlio lwfans byw i’r anabl, lwfans gweini neu elfen gymorth y lwfans cyflogaeth a chymorth.
Os ydych yn poeni am allu fforddio talu eich rhent, siaradwch â ni er mwyn cael gwybod am wahanol ffyrdd o dalu a chael help a chyngor.
HELP A CHYNGOR
Os yw’r dreth ystafell wely neu’r cap ar fudd-daliadau yn effeithio arnoch chi, neu os ydych yn poeni am allu fforddio talu eich rhent, siaradwch â ni er mwyn cael gwybod am wahanol ffyrdd o dalu a chael help a chyngor. Gallwch:
- Siarad â ni am symud i gartref llai o faint – gallwn gynnig cyngor a £500 i’ch helpu gyda chostau symud.
- Cael cyngor gan ein Tîm Atebion Ariannol a fydd efallai’n gallu eich helpu i wneud cais am daliad disgresiwn at gostau tai, a rhoi cyngor i chi ynghylch gwneud cais am fudd-daliadau eraill.
- Ystyried cymryd lojer.
- Ceisio dod o hyd i waith gyda thâl er mwyn cynyddu eich incwm.