Mae’r Prosiect Cefnogaeth ddigidol yn cynorthwyo ein cwsmeriaid i fod yn rhan o’r byd digidol.
Gallwn ddefnyddio ein fan cymorth digidol, sef ‘Dot.e’, i ddod â chymorth i stepen eich drws
Gallwn eich helpu gyda’r canlynol:
- Hyfforddiant digidol i’ch cynorthwyo i fynd ar-lein, arbed arian a chadw’n ddiogel
- Ceisiadau am Gredyd Cynhwysol
- Cymorth gyda chyfrifon ar-lein ar gyfer Credyd Cynhwysol a Mudo i Gredyd Cynhwysol
- Rhoi benthyg dyfais ddigidol i chi fel y gallwch fynd ar-lein
- Darparu cerdyn sim â data rhad ac am ddim am 6 mis
Dyma rai enghreifftiau o’r hyfforddiant digidol y gallwn ei ddarparu:
- Hyfforddiant i ddefnyddio cyfrifiadur, ffôn neu lechen am y tro cyntaf
- Hyfforddiant i ddefnyddio galwadau fideo, cyfryngau cymdeithasol ac apiau i gysylltu â pherthnasau a ffrindiau
- Help i gael gafael ar wasanaethau ar-lein megis cyfleuster Fy Nghyfrif Cyngor Sir Penfro ac i siopa’n ddiogel ar-lein, a llawer iawn mwy!
- Help i ymgeisio am swyddi ar-lein
- Cyflwyniad i apiau a allai helpu gydag anghenion o ran hygyrchedd
Mae croeso i chi gysylltu os hoffech gael help digidol, hyd yn oed os nad yw’r help hwnnw wedi’i restru uchod. Fe wnawn ni weld beth y gallwn ei wneud i’ch helpu.
Hoffech chi gael hyfforddiant digidol i’ch cymuned?
Oes angen i chi gael benthyg llechen i fynd ar-lein?
Mae croeso i chi gysylltu drwy anfon ebost i [email protected] neu drwy ffonio aelod o’n tîm cyfeillgar ar 0800 854 568.
Ac yn olaf, cofiwch gadw eich llygaid ar agor am fan Dot.e yn eich ardal chi!