Beth yw niwsans a achosir gan gymdogion?
Mae niwsans a achosir gan gymdogion yn cynnwys unrhyw beth sy’n achosi anfodlonrwydd neu niwsans mewn cymuned. Gall amrywio o sŵn neu bethau eraill sy’n tarfu ar bobl, i fygythiadau neu aflonyddwch, defnyddio neu fygwth trais, gwneud cwynion maleisus, gwaredu sbwriel yn anghyfrifol neu wneud difrod i eiddo. Mae’n bosibl na fydd yn cael ei ystyried o reidrwydd yn ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Os ydych yn cael problemau gyda’ch cymydog neu’i blant, ceisiwch siarad â nhw’n gyntaf. Esboniwch yn glir beth sy’n eich poeni, drwy nodi amserau, dyddiadau a mathau o ymddygiad. Byddem yn eich annog i geisio ymdrin â’r mater eich hun i ddechrau, drwy gael sgwrs synhwyrol â’ch cymydog.
Beth yw ymddygiad gwrthgymdeithasol?
Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynnwys ymddygiad mwy difrifol sydd weithiau’n ymddygiad troseddol.
Os yw’r ymddygiad yn droseddol, dylech sôn amdano’n syth wrth yr heddlu. Os nad yw’n ymddygiad troseddol, dylech gysylltu ag ateb drwy ddefnyddio ein Ffurflen Ar-lein neu ein ffonio ar 0800 854568.
Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynnwys pethau megis:
- Cerddoriaeth rhy uchel a niwsans arall a achosir gan sŵn.
- Trais/Bygythiadau o drais.
- Cam-drin domestig.
- Dychryn rhywun/Aflonyddu ar rywun.
- Gwerthu/Cymryd cyffuriau.
- Graffiti/Difrod i eiddo.
- Cerbydau sydd wedi’u gadael.
Sôn am ymddygiad gwrthgymdeithasol
Er mwyn i ni allu datrys problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol, rydym yn dibynnu arnoch i roi tystiolaeth i ni.
Llenwch ein Ffurflen Ar-lein neu ffoniwch ni ar glicio yma, er mwyn dechrau creu cofnod o dystiolaeth. Mae’n hollbwysig eich bod yn llenwi’r dalennau hyn mor aml a thrylwyr ag y gallwch fel bod gennym fwy o opsiynau pan ddaw’n fater o weithredu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ebostio neu’n postio’r dalennau dyddiadur hyn yn ôl atom cyn gynted ag y byddwch wedi’u llenwi.
Neu, os oes sŵn yn effeithio arnoch, gallwch sôn wrthym amdano gan ddefnyddio’r ‘Ap Sŵn’ rhad ac am ddim. Gallwch wneud hynny drwy glicio yma a lawrlwytho’r ap i’ch ffôn clyfar a dilyn y cyfarwyddiadau isod.
Cael help
D’ych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae yna sefydliadau gwych sy’n arbenigo mewn cynorthwyo cymunedau i ddatrys problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol:
• Cyngor ar Bopeth – cyngor rhad ac am ddim, beth bynnag yw’r broblem.
• Gwasanaeth Gwybodaeth i Ddioddefwyr
• Mae www.ourbobby.com yn cynnwys gwybodaeth ynghylch beth y dylech ei wneud yn eich ardal leol. Gallwch ffonio 101 neu ffonio 999 os ydych mewn perygl ar y pryd.
I gael help pellach, ewch i’n Tudalen Cwestiynau Cyffredin am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.
Oes niwsans a achosir gan sŵn yn effeithio arnoch?
Sut mae dechrau arni…
Dilynwch y camau isod:
Cam 1/ Lawrlwythwch yr ap o www.thenoiseapp.com neu chwiliwch ar-lein am ‘The Noise App RHE’ yn Google Play neu App Store Apple.
Cam 2/ Crëwch eich cyfrif a dewiswch Cyngor Sir Penfro fel eich darparwr gwasanaeth er mwyn ymchwilio i’ch adroddiadau am niwsans a achosir gan sŵn.
Cam 3/ I sôn am niwsans tapiwch yr eicon, gwnewch recordiad 30 eiliad o’r sŵn, llenwch ffurflen a chyflwynwch eich adroddiad ar-lein.
Cam 4/ Arhoswch am ymateb gennym.
Sylwch fod gan bob recordiad stamp GPS fel bod swyddogion yn gwybod ble’r ydych chi pan fyddwch yn gwneud y recordiad, ac mae gan bob recordiad stamp dyddiad ac amser.
Sut mae sôn am ddifrod troseddol neu ddigwyddiad difrifol wrth yr heddlu?
Deialu 111 – Rhif yr heddlu pan nad oes argyfwng.
Deialu 999 – Rhif yr heddlu mewn argyfwng.
Sut gallaf sicrhau nad ydw i’n niwsans i bobl eraill?
- Gallwch atal problemau rhag digwydd gyda’ch cymydog drwy ddilyn ychydig o gyngor syml.
- Byddwch yn gymydog da.
- Byddwch yn ystyriol gartref wrth chwarae cerddoriaeth neu wrando ar y teledu, drwy gadw’r sŵn yn isel.
- Pan fyddwch wedi gwahodd ffrindiau neu’ch teulu draw, yn enwedig yn hwyr gyda’r nos, cofiwch y gallai eich cymdogion fod yn cysgu.
- Wrth wneud tasgau yn y tŷ, gwnewch nhw ar adeg resymol o’r dydd, rhowch wybod i’ch cymydog ymlaen llaw a gwnewch gyn lleied o sŵn ag sy’n bosibl.
- Gofalwch am eich anifeiliaid anwes. Cadwch eich cŵn dan reolaeth a pheidiwch â gadael iddynt grwydro o amgylch y gymdogaeth.
Problemau eraill sy’n niwsans?
Cerbydau sydd wedi’u gadael
Os ydych yn meddwl bod car wedi’i adael yn eich cymdogaeth neu os yw ei olwg yn awgrymu nad yw’n ffit i’r ffordd fawr, cysylltwch â ni. Byddwn yn gwneud rhai ymholiadau ac yn cysylltu â’r awdurdod lleol a fydd efallai’n symud y cerbyd.
Sbwriel/Tipio sbwriel yn anghyfreithlon
Os byddwch yn sylwi ar sbwriel/achos o dipio sbwriel yn anghyfreithlon, cysylltwch â’r awdurdod lleol a fydd yn ymdrin â’r broblem.
Gwerthu cyffuriau
Dylech sôn wrth yr heddlu’n uniongyrchol am hynny, gan ddefnyddio’r rhif pan nad oes argyfwng. Rhowch wybod i ni hefyd fel y gallwn ymchwilio i’r mater a gweithio mewn partneriaeth â’r heddlu ac asiantaethau eraill.
Anifeiliaid strae
Dylech sôn wrth yr awdurdod lleol yn uniongyrchol amdanynt. Bydd y Warden Cŵn yn derbyn yr alwad ac yn casglu cŵn strae, a bydd yn sôn wrth yr RSPCA am unrhyw achosion o esgeulustod neu greulondeb i anifeiliaid.