Filter:
-
Y cap ar fudd-daliadau
Ceir cyfyngiad ar gyfanswm y budd-daliadau y gall y bobl sydd yn eich cartref eu cael, ac mae'r budd-daliadau dan sylw'n cynnwys y canlynol:
- Budd-dal tai.
- Lwfans ceisio gwaith.
- Lwfans cyflogaeth a chymorth (oni bai eich bod yn cael yr elfen gymorth).
- Budd-dal plant.
- Credyd treth plant.
- Lwfans gofalwr.
- £384.62 yr wythnos neu £20,000 y flwyddyn ar gyfer rhieni sengl.
- £384.62 yr wythnos neu £20,000 y flwyddyn ar gyfer cyplau sydd â phlant neu nad oes ganddynt blant.
- £257.69 yr wythnos neu £13,400 y flwyddyn ar gyfer pobl sengl nad oes ganddynt blant.
-
Rwyf wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ond heb gael fy nhalu, ac mae fy rhent yn ddyledus. Beth dylwn i ei wneud?
Gall gymryd hyd at 7 wythnos i Gredyd Cynhwysol gael ei dalu, ar ôl i chi wneud cais amdano. Yn y cyfamser, byddwch yn dal yn gyfrifol am dalu eich rhent yn unol â’ch cytundeb tenantiaeth. Dyna pam rydym yn annog ein tenantiaid i gronni ychydig o gredyd yn eu cyfrifon rhent, fel na fydd ôl-ddyledion ganddynt pan fyddant yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol. Caiff Credyd Cynhwysol ei dalu ar ffurf ôl-daliadau bob mis. Os oes angen unrhyw help neu gyngor arnoch, anfonwch ebost i [email protected] neu ffoniwch 01437 763688.
-
Does dim cyfrif banc gen i. Sut galla’ i agor un?
Caiff Credyd Cynhwysol ei dalu’n syth i gyfrif banc. Gallai cyfrif banc sylfaenol fod yn addas i chi:
- Os oes gennych statws credyd gwael neu os yw eich incwm yn isel.
- Os nad oes arnoch angen y pethau ychwanegol y mae cyfrif cyfredol yn eu cynnig, er enghraifft cyfleuster gorddrafft.
-
Does dim cyfrifiadur gen i. Sut galla’ i wneud cais ar-lein?
Mae gennym weithiwr cymorth digidol a fan cymorth digidol sydd â dyfeisiau ipad a chyfrifiaduron y gallwch eu defnyddio i fynd ar-lein. At hynny, gall ein cynghorwyr budd-daliadau ac arian ymweld â chi yn eich cartref a dod ag ipad gyda nhw i’ch helpu i lenwi eich ffurflen gais.
-
Pa wybodaeth y bydd arna’ i ei hangen wrth wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein?
- Eich rhif Yswiriant Gwladol.
- Eich cod post.
- Eich cyfeiriad ebost.
- Eich rhif ffôn (llinell sefydlog neu ffôn symudol).
- Enw a chyfeiriad Grŵp ateb, a’ch rhent cymwys – gallwch ofyn i ni am y wybodaeth hon.
- Manylion y cyfrif yr ydych am i’ch Credyd Cynhwysol gael ei dalu i mewn iddo – enw a chyfeiriad y gangen, rhif y cyfrif a’r cod didoli.
- Os ydych yn gweithio, eich cyflog gros (cyn unrhyw ddidyniadau).
- Manylion unrhyw gynilion neu gyfalaf.
- Manylion eich partner os yw’n byw gyda chi.
- Manylion unrhyw blant/perthnasau sy’n byw gyda chi, gan gynnwys eu henw, eu dyddiad geni, eu hoedran a’u hincwm.
- Os ydych yn talu am ofal plant, manylion eich darparwr gofal plant gan gynnwys ei rif cofrestru.
- Os oes angen help arnoch i wneud cais am Gredyd Cynhwysol, gall ein tîm mewnol o Gynghorwyr Budd-daliadau ac Arian ddarparu cyngor a chymorth i chi.