Filter:
-
Beth os na fyddwch yn datrys y broblem?
Os na fyddwn yn llwyddo i ddatrys eich cwyn, gallwch gwyno wrth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae’r Ombwdsmon yn annibynnol ar bob corff llywodraeth, a gall ymchwilio i’ch cwyn os ydych yn credu eich bod chi'n bersonol neu’r unigolyn rydych yn cwyno ar ei ran:
- Wedi cael eich trin yn annheg neu wedi cael gwasanaeth gwael drwy ryw fethiant ar ran y corff sy’n ei ddarparu.
- Wedi cael eich rhoi dan anfantais yn bersonol oherwydd methiant gwasanaeth neu wedi cael eich trin yn annheg.
-
Faint o amser y byddwch yn ei gymryd i ymdrin â fy nghwyn?
Byddwn yn ceisio datrys pryderon cyn gynted ag sy'n bosibl, a byddwn yn disgwyl ymdrin â’r mwyafrif llethol ohonynt cyn pen 28 diwrnod. Os yw eich cwyn yn fwy cymhleth, byddwn:
- Yn rhoi gwybod i chi o fewn yr amser hwnnw pam rydym yn credu y gallai gymryd mwy o amser i ni ymchwilio i'ch cwyn.
- Yn dweud wrthych faint o amser rydym yn disgwyl i'r gwaith ei gymryd.
- Yn rhoi gwybod i chi ble rydym arni gyda'r ymchwiliad.
- Yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi'n rheolaidd, a fydd yn cynnwys dweud wrthych a allai unrhyw ddatblygiadau newid ein hamcangyfrif gwreiddiol.
-
Sut byddwch yn ymdrin â fy nghwyn?
Welsh coming soon. We apologise for any inconvenience caused. Thank you.