Filter:
-
Sut mae gwneud cais?
I gael yswiriant ar unwaith, ffoniwch My Home Contents Insurance ar 0345 450 7288. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.thistlemyhome.co.uk
-
Faint mae’n ei gostio?
Bydd y premiymau'n dibynnu ar y swm a gaiff ei yswirio, eich oedran a’ch cod post.
-
Ydych chi wedi trefnu yswiriant eto ar gyfer cynnwys eich cartref?
Mae ateb yn yswirio’r adeilad yr ydych yn byw ynddo ond nid yw'n yswirio cynnwys eich cartref. Yswiriant Cynnwys Cartref Pam mae ei angen arnaf? Os ydych yn gwsmer sy’n rhentu, mae’n bosibl na fyddwn yn yswirio cynnwys eich cartref yn rhan o’r contract meddiannaeth. Mae’n syniad da ystyried beth y byddai polisi yswiriant cynnwys cartref yn ei yswirio, er mwyn eich helpu i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch a oes angen yswiriant o’r fath arnoch. Bwriad yswiriant cynnwys yw helpu i ddiogelu eich eiddo. Waeth pa mor ofalus ydych chi, mae risg bob amser y gallai eich eiddo gael ei dorri, ei ddifrodi neu’i ddwyn. I’ch helpu i benderfynu a yw yswiriant cynnwys cartref yn briodol i chi, mae ateb wedi ymuno â Thistle Tenant Risks a Great Lakes Insurance UK Ltd sy’n darparu’r Cynllun Yswiriant Cynnwys Fy Nghartref, sef polisi yswiriant cynnwys ar gyfer tenantiaid sy’n byw mewn tai cymdeithasol. Gall y Cynllun Yswiriant Cynnwys Fy Nghartref gynnig yswiriant i chi ar gyfer cynnwys eich cartref, gan gynnwys yswiriant ar gyfer eitemau megis dodrefn, carpedi, llenni, dillad, dillad gwely, eitemau trydanol, gemwaith, lluniau ac ornaments. Sut mae cael rhagor o wybodaeth?
- Gofynnwch i'ch swyddog tai lleol am becyn gwneud cais.
- Ffoniwch Thistle Tenant Risks ar 0345 450 7288.
- Fel arall, ewch i www.thistlemyhome-cymru.co.uk i gael rhagor o wybodaeth neu ofyn i rywun eich ffonio'n ôl.
-
Alla’ i brynu fy nghartref?
Gall rhai o denantiaid ateb brynu eu cartrefi drwy’r cynlluniau Hawl i Gaffael neu Hawl i Brynu. Fodd bynnag, efallai na fydd rhai tenantiaid yn gymwys. I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun Hawl i Gaffael, dylai eich cartref fodloni'r amodau canlynol:
- Cafodd ei adeiladu ar ôl 1 Gorffennaf 1997.
- Nid yw mewn ardal wledig yn ôl diffiniad Llywodraeth Cymru.
- Nid yw yn ardaloedd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
- Ni chafodd ei adeiladu’n benodol ar gyfer pobl hŷn neu bobl anabl.
-
Hoffwn i ychwanegu rhywun at y denantiaeth neu dynnu rhywun oddi arni. Sut mae gwneud hynny?
Os ydych yn gyd-denant, bydd arnom angen caniatâd y ddau denant i’ch tynnu oddi ar y denantiaeth. Gellir rhoi'r caniatâd hwnnw drwy anfon ebost i [email protected] – bydd angen hefyd bod eich cyfrif rhent yn glir cyn y gallwn wneud unrhyw newidiadau. I ofyn am gael tynnu rhywun oddi ar y denantiaeth, defnyddiwch ein Ffurflen Ar-lein.
-
Rwyf am derfynu fy nhenantiaeth. Sut dylwn i roi gwybod i chi?
Mae arnom angen 28 diwrnod o rybudd gan bob tenant os byddant am adael eu cartref. Gallwch roi rhybudd i ni drwy lenwi ein Ffurflen Diwedd Tenantiaeth. I gael help neu ragor o wybodaeth, anfonwch ebost i [email protected]
-
Alla’ i wneud gwelliannau i fy nghartref?
Gwelliant yw unrhyw waith a wneir neu unrhyw beth a osodir sydd er lles y tenant. Gallai gynnwys gosod rhywbeth newydd yn lle rhywbeth sydd yno'n barod, ei uwchraddio neu ychwanegu ato. Gallai gynnwys unrhyw osodiadau neu ffitiadau parhaol neu dros dro sydd ynghlwm wrth y tir neu’r adeilad yr ydych yn byw ynddo. Bydd arnoch angen caniatâd gan ateb i wneud unrhyw welliannau. I gyflwyno cais, llenwch ein Ffurflen Gofyn am Ganiatâd i Wneud Gwaith/Gwelliannau.
-
Oes hawl gen i gael anifail anwes?
Rhaid i bob tenant sydd am gadw anifail anwes ofyn i ateb am ganiatâd. Mae’r cyfyngiadau canlynol yn berthnasol: (a) Ni chaniateir ceffylau na da byw mewn unrhyw eiddo. (b) Ni chaniateir cŵn mewn fflatiau. (c) Ni chaniateir mwy na dau gi mewn unrhyw eiddo. (ch) Ni chaniateir cŵn a gaiff eu hystyried yn beryglus dan y Ddeddf Cŵn Peryglus. I gyflwyno cais, llenwch ein Ffurflen Caniatâd i Fod yn Berchen ar Anifail Anwes.