Filter:
-
Pryd bydd fy apwyntiad nesaf ar gyfer rhoi gwasanaeth i’r offer nwy?
Byddwn yn trefnu archwiliad diogelwch nwy, a byddwn yn cysylltu â chi ymlaen llaw er mwyn gwneud apwyntiad i ymweld â chi yn eich cartref. Ar ôl trefnu'r apwyntiad, bydd yn rhaid i chi adael i ni ddod i mewn i’ch cartref i gwblhau gwaith cynnal a chadw neu gyflawni archwiliadau diogelwch ar offer.
-
Beth os oes angen i fi aildrefnu fy apwyntiad?
Os na allwch gadw'r apwyntiad a drefnwyd ar eich cyfer, rhaid i chi gysylltu â ni drwy anfon ebost i [email protected] neu ein ffonio ar 0800 854568. Fel arfer, mae angen 24 awr o rybudd arnom.
-
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn colli apwyntiad?
Byddwn yn gadael cerdyn galw, a bydd angen i chi gysylltu â ni i aildrefnu eich apwyntiad. Mae'n bosibl y byddwn yn codi tâl arnoch am yr apwyntiad a gollwyd.
-
Beth am fy synhwyrydd carbon monocsid?
Mae ateb wedi darparu synwyryddion carbon monocsid ar gyfer ei gwsmeriaid, a bydd yn eu profi ac yn gosod rhai newydd yn eu lle yn rhan o'r archwiliad diogelwch blynyddol. Rhowch wybod i ni os yw eich synhwyrydd ar goll, wedi’i ddifrodi neu'n ddiffygiol, neu os nad ydych yn siŵr, ac fe wnawn ni osod un newydd yn rhad ac am ddim.