Filter:
-
Sut mae ymgeisio?
Gallwch ymgeisio am ein holl swyddi gwag, ar draws y Grŵp, ar-lein drwy ddefnyddio ein gwefan recriwtio.
-
Pa mor fuan y gallaf ddechrau ar ôl cael cynnig y swydd?
Pan fyddwch wedi cael cynnig sydd wedi'i gadarnhau, bydd angen i chi drafod â’ch cyflogwr presennol a chytuno ar ddyddiad gadael. Pan fyddwch yn gwybod y dyddiad hwnnw, cysylltwch â ni a gallwn gytuno ar ddyddiad i chi ymuno â ni.
-
Alla’ i roi rhybudd i’m cyflogwr presennol pan fyddwch yn cynnig y swydd i mi?
Byddem yn eich cynghori i beidio â rhoi rhybudd i'ch cyflogwr presennol nes y byddwn wedi anfon cynnig o gyflogaeth atoch sydd wedi'i gadarnhau. I ddechrau byddwn yn anfon cynnig o gyflogaeth atoch sy'n gynnig dros dro. Mae hynny'n golygu y byddem yn hoffi i chi ymuno â ni ond bod angen i ni gyflawni rhai gwiriadau/archwiliadau cyn eich bod yn gwneud hynny. Bydd y rheini'n cynnwys geirdaon boddhaol, archwiliad iechyd a'r gwiriadau canlynol efallai, yn dibynnu ar y swydd:
- Gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
- Gwirio eich trwydded yrru ac yswiriant eich cerbyd.
- Gwirio eich cymwysterau.
-
A fyddaf yn clywed gennych os ydw i wedi bod yn aflwyddiannus?
Yn ateb, byddwn bob amser yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi am ganlyniad eich cais neu’ch cyfweliad. Byddem yn hoffi eich helpu i lwyddo wrth chwilio am swydd yn y dyfodol, felly cofiwch ddweud wrthym os hoffech gael adborth ynglŷn â'ch cais neu'ch cyfweliad.
-
Rwyf wedi cyflwyno fy nghais yn ddiweddar – beth fydd yn digwydd nesaf?
Ar ôl y dyddiad cau, byddwn yn cysylltu â chi drwy ebost i ddweud wrthych a ydych wedi eich dewis ai peidio ar gyfer cyfweliad. Bydd yr ebost yn nodi'r dyddiad/amser, y lleoliad a'r dogfennau y bydd angen i chi ddod â nhw gyda chi. Byddwch yn gallu trefnu amser eich cyfweliad drwy ddolen gyswllt yn ein neges ebost. Yn y cyfweliad, byddwch yn ateb cyfres o gwestiynau ac mae'n bosibl y bydd angen i chi gwblhau asesiad neu roi cyflwyniad, yn dibynnu ar y swydd yr ydych wedi ymgeisio amdani. Byddwn yn rhoi gwybod i chi yn yr hysbyseb wreiddiol a fydd asesiad yn ofynnol ai peidio ar gyfer y swydd. Yn dilyn y cyfweliad, byddwn yn cysylltu â chi eto i roi gwybod i chi a ydych wedi bod yn llwyddiannus.
-
Ydych chi’n derbyn ceisiadau hwyr?
Er tegwch i bob ymgeisydd, ni fyddwn yn derbyn ceisiadau hwyr mewn amgylchiadau arferol. Felly, mae’n bwysig eich bod yn nodi dyddiadau cau/dyddiadau allweddol cyn eich bod yn dechrau llunio eich cais. Sicrhewch eich bod yn caniatáu digon o amser i gyflwyno eich cais, rhag ofn y byddwch yn cael unrhyw anawsterau technegol.
-
Rwyf wedi cyflwyno fy nghais ond heb glywed dim gennych – beth dylwn i ei wneud?
Gwiriwch fod y dyddiad cau wedi pasio oherwydd ni fyddwch yn clywed dim gennym tan hynny. Os yw’r dyddiad cau wedi pasio, gwiriwch eich negeseuon ebost a’ch ebost sothach oherwydd bydd pob neges yn cael ei hanfon i'r cyfeiriad ebost a nodwyd yn eich cais. Os byddwch yn dal yn methu â dod o hyd i unrhyw beth, ffoniwch ein hadran Pobl a Chyfathrebu ar 01437 776950/01437 776952.
-
Dyw’r dyddiad/amser a nodwyd ar gyfer y cyfweliad ddim yn gyfleus i fi – beth yw fy opsiynau?
Yn gyntaf, ffoniwch ein hadran Pobl a Chyfathrebu ar 01437 776950 neu 01437 776952 i roi gwybod i ni nad yw'r dyddiad/amser gwreiddiol yn gyfleus i chi. Mae'n bosibl y gallwn aildrefnu eich cyfweliad, ond efallai na fydd modd i ni wneud hynny bob tro.
-
Beth fydd yn digwydd os na allaf gael gafael ar dystysgrif fy nghymhwyster?
Bydd angen i chi gysylltu â’ch bwrdd arholi, eich ysgol neu'ch prifysgol ac ati er mwyn cael tystysgrifau newydd, a chi fydd yn gorfod talu amdanynt.
-
Alla’ i ddim cael gafael ar fy nogfennau i gyd. Alla’ i ddod i’r cyfweliad, er hynny?
Peidiwch â phoeni; gallwch ddod i’r cyfweliad heb eich dogfennau. Fodd bynnag, os byddwch yn llwyddiannus yn y cyfweliad, bydd angen i ni weld yr holl ddogfennau gwreiddiol y gofynnwyd amdanynt, cyn y gallwn gadarnhau cynnig o gyflogaeth i chi.
-
Ydych chi’n derbyn CV?
Yn rhan o'n proses recriwtio, rydym yn gofyn i bob ymgeisydd ateb cyfres o gwestiynau er mwyn sicrhau eu bod yn darparu’r holl wybodaeth y mae arnom ei hangen. Os bydd arnom angen CV yn rhan o'ch cais, byddwn yn nodi hynny yn y broses ymgeisio.