Filter:
-
Rwyf mewn credyd, felly alla’ i ofyn am ad-daliad?
Gallwch – y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw llenwi'r Ffurflen Gofyn am Ad-daliad ac fe broseswn ni eich cais cyn gynted ag y byddwn wedi cael eich ffurflen.
-
Beth os wyf yn ei chael yn anodd talu fy rhent a bod gen i ôl-ddyledion rhent?
Cysylltwch â’ch Cydlynydd Tai yn [email protected] neu ffoniwch ni ar 0800 854568. Y peth pwysig yw eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn gynted ag sy'n bosibl er mwyn i ni allu cynnig help i'ch rhoi'n ôl ar ben ffordd a chynnig cyngor i chi ynghylch arian a budd-daliadau.
-
Pam mae angen i fi dalu tâl gwasanaeth ar ben fy rhent?
Pan fyddwn yn darparu gwasanaethau ychwanegol i rai o’n tenantiaid, byddant yn talu am y gwasanaethau hynny drwy dâl gwasanaeth. Dyma rai enghreifftiau:
- Cynnal a chadw tir.
- Glanhau ardaloedd cyffredin.
- Goleuo ardaloedd cyffredin.
- Rhoi gwasanaeth i systemau mynediad llafar.
- Cynnal a chadw systemau larwm tân.
-
Pryd mae fy rhent yn ddyledus?
Mae’ch rhent a’ch tâl gwasanaeth, os yw'n berthnasol, yn daladwy bob wythnos ymlaen llaw ac yn ddyledus ar ddydd Llun.