Archives

Y cap ar fudd-daliadau

Ceir cyfyngiad ar gyfanswm y budd-daliadau y gall y bobl sydd yn eich cartref eu cael, ac mae’r budd-daliadau dan sylw’n cynnwys y canlynol: Budd-dal tai. Lwfans ceisio gwaith. Lwfans cyflogaeth a chymorth (oni bai eich bod yn cael yr elfen gymorth). Budd-dal plant. Credyd treth plant. Lwfans gofalwr. Os yw’r cyfanswm yn fwy na’r […]

Does dim cyfrif banc gen i. Sut galla’ i agor un?

Caiff Credyd Cynhwysol ei dalu’n syth i gyfrif banc. Gallai cyfrif banc sylfaenol fod yn addas i chi: Os oes gennych statws credyd gwael neu os yw eich incwm yn isel. Os nad oes arnoch angen y pethau ychwanegol y mae cyfrif cyfredol yn eu cynnig, er enghraifft cyfleuster gorddrafft. Bydd angen i chi brofi […]

Does dim cyfrifiadur gen i. Sut galla’ i wneud cais ar-lein?

Mae gennym weithiwr cymorth digidol a fan cymorth digidol sydd â dyfeisiau ipad a chyfrifiaduron y gallwch eu defnyddio i fynd ar-lein. At hynny, gall ein cynghorwyr budd-daliadau ac arian ymweld â chi yn eich cartref a dod ag ipad gyda nhw i’ch helpu i lenwi eich ffurflen gais.

Sut mae ymgeisio?

Gallwch ymgeisio am ein holl swyddi gwag, ar draws y Grŵp, ar-lein drwy ddefnyddio ein gwefan recriwtio.

Pa mor fuan y gallaf ddechrau ar ôl cael cynnig y swydd?

Pan fyddwch wedi cael cynnig sydd wedi’i gadarnhau, bydd angen i chi drafod â’ch cyflogwr presennol a chytuno ar ddyddiad gadael. Pan fyddwch yn gwybod y dyddiad hwnnw, cysylltwch â ni a gallwn gytuno ar ddyddiad i chi ymuno â ni.

A fyddaf yn clywed gennych os ydw i wedi bod yn aflwyddiannus?

Yn ateb, byddwn bob amser yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi am ganlyniad eich cais neu’ch cyfweliad. Byddem yn hoffi eich helpu i lwyddo wrth chwilio am swydd yn y dyfodol, felly cofiwch ddweud wrthym os hoffech gael adborth ynglŷn â’ch cais neu’ch cyfweliad.

Rwyf wedi cyflwyno fy nghais yn ddiweddar – beth fydd yn digwydd nesaf?

Ar ôl y dyddiad cau, byddwn yn cysylltu â chi drwy ebost i ddweud wrthych a ydych wedi eich dewis ai peidio ar gyfer cyfweliad. Bydd yr ebost yn nodi’r dyddiad/amser, y lleoliad a’r dogfennau y bydd angen i chi ddod â nhw gyda chi. Byddwch yn gallu trefnu amser eich cyfweliad drwy ddolen gyswllt […]