Alla’ i roi rhybudd i’m cyflogwr presennol pan fyddwch yn cynnig y swydd i mi?

Byddem yn eich cynghori i beidio â rhoi rhybudd i’ch cyflogwr presennol nes y byddwn wedi anfon cynnig o gyflogaeth atoch sydd wedi’i gadarnhau.

I ddechrau byddwn yn anfon cynnig o gyflogaeth atoch sy’n gynnig dros dro. Mae hynny’n golygu y byddem yn hoffi i chi ymuno â ni ond bod angen i ni gyflawni rhai gwiriadau/archwiliadau cyn eich bod yn gwneud hynny. Bydd y rheini’n cynnwys geirdaon boddhaol, archwiliad iechyd a’r gwiriadau canlynol efallai, yn dibynnu ar y swydd:

  • Gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
  • Gwirio eich trwydded yrru ac yswiriant eich cerbyd.
  • Gwirio eich cymwysterau.

Pan fyddwn wedi cael gwybod bod y gwiriadau/archwiliadau hyn yn foddhaol, byddwn mewn sefyllfa i anfon cynnig atoch sydd wedi’i gadarnhau.