Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn sôn am broblem?

Pan fyddwch yn sôn wrthym am broblem sy’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu niwsans a achosir gan gymdogion byddwn yn cynnig cyngor i chi, yn cymryd gwybodaeth gennych ac yn dweud wrthych pa gamau y gallwn eu cymryd i helpu i ddatrys y broblem.
 
I ddechrau, byddem yn argymell eich bod yn mynd ati eich hun i geisio datrys y broblem gyda’ch cymdogion, os yw’n ddiogel i chi wneud hynny. 
 
Byddwn yn mynd i’r afael â digwyddiadau mwy difrifol sy’n ymwneud ag ymddygiad a gaiff ei wahardd, megis ymddygiad gwrthgymdeithasol a niwsans a achosir gan gymdogion, pan fydd gennym dystiolaeth a bod angen gweithredu.
 
Gallai tystiolaeth gynnwys recordiadau’r ap sŵn, cofnodion ysgrifenedig, ffotograffau neu fideos.
 
Ni fyddwn yn mynd i’r afael â mân ddigwyddiadau neu bethau sydd wedi digwydd unwaith yn unig, y mae’n hawdd eu datrys rhwng cymdogion.
 
Nodwch y gallai gymryd peth amser i gasglu tystiolaeth a gweithredu, ond byddwn bob amser yn cyfathrebu’n rheolaidd â chi drwy gydol y broses. 
 
Ni fyddwn yn gallu datrys rhai problemau ar ein pen ein hunain. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â’r heddlu, yr awdurdod lleol ac asiantaethau eraill i ymdrin ag achosion mwy difrifol o niwsans ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, er mwyn gwneud ein cymunedau’n fannau diogel i fyw ynddynt.