Beth yw ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Ymddygiad gwrthgymdeithasol yw ymddygiad sy’n debygol o achosi anfodlonrwydd neu niwsans i unigolyn arall, sy’n cynnwys defnyddio eich cartref at ddibenion anghyfreithlon.

Gall enghreifftiau o ymddygiad gwrthgymdeithasol gynnwys:

  • ymddygiad swnllyd a/neu ddifrïol
  • fandaliaeth
  • graffiti
  • ymddygiad sy’n codi ofn ar rywun
  • bod yn feddw’n gyhoeddus
  • gadael sbwriel ar hyd y lle
  • tipio sbwriel yn anghyfreithlon
  • defnyddio cyffuriau anghyfreithlon
  • cŵn sy’n cyfarth yn ormodol.

Mae’n bosibl na fydd rhai mathau o ymddygiad, er eu bod efallai’n achosi niwsans i unigolion, yn cael eu hystyried yn ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Gallai’r mathau hynny o ymddygiad gynnwys, er enghraifft:

  • parti neu farbeciw a gynhelir unwaith yn unig
  • sŵn neu aflonyddwch sy’n digwydd yn anaml neu’n achlysurol
  • plant yn chwarae
  • ci neu gŵn sy’n cyfarth yn achlysurol
  • peiriannau domestig sy’n cadw gormod o sŵn (e.e. peiriant golchi dillad, hwfer)
  • mân atgyweiriadau a wneir i gerbydau
  • achosion o hel clecs, gan gynnwys negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol
  • anghydfodau sydd wedi gwaethygu.