Rhaid i bob tenant sydd am gadw anifail anwes ofyn i ateb am ganiatâd. Mae’r cyfyngiadau canlynol yn berthnasol: (a) Ni chaniateir ceffylau na da byw mewn unrhyw eiddo. (b) Ni chaniateir cŵn mewn fflatiau. (c) Ni chaniateir mwy na dau gi mewn unrhyw eiddo. (ch) Ni chaniateir cŵn a gaiff eu hystyried yn beryglus dan y Ddeddf Cŵn Peryglus.
I gyflwyno cais, llenwch ein Ffurflen Caniatâd i Fod yn Berchen ar Anifail Anwes.