Archives

Ydych chi’n derbyn ceisiadau hwyr?

Er tegwch i bob ymgeisydd, ni fyddwn yn derbyn ceisiadau hwyr mewn amgylchiadau arferol. Felly, mae’n bwysig eich bod yn nodi dyddiadau cau/dyddiadau allweddol cyn eich bod yn dechrau llunio eich cais. Sicrhewch eich bod yn caniatáu digon o amser i gyflwyno eich cais, rhag ofn y byddwch yn cael unrhyw anawsterau technegol.

Ydych chi’n derbyn CV?

Yn rhan o’n proses recriwtio, rydym yn gofyn i bob ymgeisydd ateb cyfres o gwestiynau er mwyn sicrhau eu bod yn darparu’r holl wybodaeth y mae arnom ei hangen. Os bydd arnom angen CV yn rhan o’ch cais, byddwn yn nodi hynny yn y broses ymgeisio.

Pam mae angen i fi dalu tâl gwasanaeth ar ben fy rhent?

Pan fyddwn yn darparu gwasanaethau ychwanegol i rai o’n tenantiaid, byddant yn talu am y gwasanaethau hynny drwy dâl gwasanaeth. Dyma rai enghreifftiau: Cynnal a chadw tir. Glanhau ardaloedd cyffredin. Goleuo ardaloedd cyffredin. Rhoi gwasanaeth i systemau mynediad llafar. Cynnal a chadw systemau larwm tân. Caiff manylion eich taliadau gwasanaeth eu hanfon atoch bob gwanwyn.

Pryd mae fy rhent yn ddyledus?

Mae’ch rhent a’ch tâl gwasanaeth, os yw’n berthnasol, yn daladwy bob wythnos ymlaen llaw ac yn ddyledus ar ddydd Llun.