Archives

Mae angen addasiad arna’ i – beth yw’r broses?

I gael mân addasiadau megis canllawiau cydio, sedd yn y gawod neu dapiau lifer, llenwch y ffurflen Minor adaptations sydd ar-lein. Os oes angen addasiad mwy arnoch, cysylltwch â Chyngor Sir Penfro ar 01437 764551 a fydd yn trefnu amser i therapydd galwedigaethol ddod i gwrdd â chi ac asesu’ch anghenion.  

Pryd bydd fy apwyntiad nesaf ar gyfer rhoi gwasanaeth i’r offer nwy?

Byddwn yn trefnu archwiliad diogelwch nwy, a byddwn yn cysylltu â chi ymlaen llaw er mwyn gwneud apwyntiad i ymweld â chi yn eich cartref. Ar ôl trefnu’r apwyntiad, bydd yn rhaid i chi adael i ni ddod i mewn i’ch cartref i gwblhau gwaith cynnal a chadw neu gyflawni archwiliadau diogelwch ar offer.

Beth am fy synhwyrydd carbon monocsid?

Mae ateb wedi darparu synwyryddion carbon monocsid ar gyfer ei gwsmeriaid, a bydd yn eu profi ac yn gosod rhai newydd yn eu lle yn rhan o’r archwiliad diogelwch blynyddol. Rhowch wybod i ni os yw eich synhwyrydd ar goll, wedi’i ddifrodi neu’n ddiffygiol, neu os nad ydych yn siŵr, ac fe wnawn ni osod […]

Beth yw ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Ymddygiad gwrthgymdeithasol yw ymddygiad sy’n debygol o achosi anfodlonrwydd neu niwsans i unigolyn arall, sy’n cynnwys defnyddio eich cartref at ddibenion anghyfreithlon. Gall enghreifftiau o ymddygiad gwrthgymdeithasol gynnwys: ymddygiad swnllyd a/neu ddifrïol fandaliaeth graffiti ymddygiad sy’n codi ofn ar rywun bod yn feddw’n gyhoeddus gadael sbwriel ar hyd y lle tipio sbwriel yn anghyfreithlon defnyddio […]