Gallai cartref dan gynllun rhanberchnogaeth fod yn addas i chi! Cynllun prynu’n rhannol/rhentu’n rhannol yw rhanberchnogaeth. Mae’n ei gwneud yn bosibl i bobl brynu cartref na fyddent yn gallu ei fforddio fel arall. Bwriad y cynllun yw galluogi pobl i gymryd camau tuag at ddringo’r ysgol eiddo a thuag at fod yn berchen yn gyfan gwbl ar eu cartref eu hunain, a’u galluogi i brynu cyfrannau pellach yn eu cartref (cynyddu cyfran eu perchentyaeth) pan fyddant yn gallu fforddio gwneud hynny. Cliciwch yma i gael gwybod mwy!