Rwyf wedi cyflwyno fy nghais yn ddiweddar – beth fydd yn digwydd nesaf?

Ar ôl y dyddiad cau, byddwn yn cysylltu â chi drwy ebost i ddweud wrthych a ydych wedi eich dewis ai peidio ar gyfer cyfweliad. Bydd yr ebost yn nodi’r dyddiad/amser, y lleoliad a’r dogfennau y bydd angen i chi ddod â nhw gyda chi. Byddwch yn gallu trefnu amser eich cyfweliad drwy ddolen gyswllt yn ein neges ebost.

Yn y cyfweliad, byddwch yn ateb cyfres o gwestiynau ac mae’n bosibl y bydd angen i chi gwblhau asesiad neu roi cyflwyniad, yn dibynnu ar y swydd yr ydych wedi ymgeisio amdani. Byddwn yn rhoi gwybod i chi yn yr hysbyseb wreiddiol a fydd asesiad yn ofynnol ai peidio ar gyfer y swydd.

Yn dilyn y cyfweliad, byddwn yn cysylltu â chi eto i roi gwybod i chi a ydych wedi bod yn llwyddiannus.