Gall gymryd hyd at 7 wythnos i Gredyd Cynhwysol gael ei dalu, ar ôl i chi wneud cais amdano. Yn y cyfamser, byddwch yn dal yn gyfrifol am dalu eich rhent yn unol â’ch cytundeb tenantiaeth. Dyna pam rydym yn annog ein tenantiaid i gronni ychydig o gredyd yn eu cyfrifon rhent, fel na fydd ôl-ddyledion ganddynt pan fyddant yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Caiff Credyd Cynhwysol ei dalu ar ffurf ôl-daliadau bob mis. Os oes angen unrhyw help neu gyngor arnoch, anfonwch ebost i [email protected] neu ffoniwch 01437 763688.