Y cap ar fudd-daliadau

Ceir cyfyngiad ar gyfanswm y budd-daliadau y gall y bobl sydd yn eich cartref eu cael, ac mae’r budd-daliadau dan sylw’n cynnwys y canlynol:

  • Budd-dal tai.
  • Lwfans ceisio gwaith.
  • Lwfans cyflogaeth a chymorth (oni bai eich bod yn cael yr elfen gymorth).
  • Budd-dal plant.
  • Credyd treth plant.
  • Lwfans gofalwr.

Os yw’r cyfanswm yn fwy na’r uchafswm a ganiateir, bydd eich taliadau budd-dal tai’n cael eu lleihau.

Dyma uchafswm y budd-daliadau y gallwch eu cael:

  • £384.62 yr wythnos neu £20,000 y flwyddyn ar gyfer rhieni sengl.
  • £384.62 yr wythnos neu £20,000 y flwyddyn ar gyfer cyplau sydd â phlant neu nad oes ganddynt blant.
  • £257.69 yr wythnos neu £13,400 y flwyddyn ar gyfer pobl sengl nad oes ganddynt blant.

Ni fydd yn berthnasol i chi os ydych yn cael credyd pensiwn neu gredyd treth gwaith neu os oes rhywun yn eich cartref yn hawlio lwfans byw i’r anabl, lwfans gweini neu elfen gymorth y lwfans cyflogaeth a chymorth.