Ffyrdd o dalu eich rhent

Mae gennym nifer o ffyrdd y gallwch dalu eich rhent, ac mae ein tîm gwasanaethau i gwsmeriaid wrth law i gynnig cyngor a help os oes arnoch eu hangen.

Debyd Uniongyrchol

Dyma’r ffordd hawsaf o dalu a’r ffordd sy’n cynnig yr hyblygrwydd mwyaf i chi.

Gallwn drefnu Debyd Uniongyrchol ar gyfer unrhyw ddiwrnod o’ch dewis. Ffoniwch ni ar 0800 854 568.

Neu gallwch lenwi ein  Ffurflen Debyd Uniongyrchol a’n  Ffurflen Mandad Debyd Uniongyrchol a’u hanfon yn ôl i [email protected]

Talu ar-lein

Cliciwch yma i dalu eich rhent ar-lein drwy allpay, sef dull swyddogol ateb o dalu ar-lein.

Dros y ffôn

Ffoniwch 0330 041 6497 a sicrhewch fod eich cyfeirnod talu 19 rhif gennych wrth law, sydd ar eich cerdyn talu ateb. Mae’r llinell ffôn ar gyfer talu yn wasanaeth wedi’i awtomeiddio ac mae ar gael bob awr o’r dydd a’r nos.

Os nad yw eich cyfeirnod talu wrth law gennych, cysylltwch â’r swyddfa drwy ffonio 01437 763688 a gallwn eich helpu o ran hynny.

Talu gan ddefnyddio ap allpay

Lawrlwythwch ap allpay o siop apiau Apple neu Google Play a chrëwch eich cyfrif. Bydd angen i chi ychwanegu cyfrif drwy nodi eich cyfeirnod talu 19 rhif a dull talu. Yna byddwch yn gallu talu eich rhent, eich treth gyngor a biliau eraill yn gyflym, ar adeg sy’n gyfleus i chi.

Talu dros y cownter mewn unrhyw siop gyfleustra PayPoint neu yn y Swyddfa Bost

Gallwch ddefnyddio eich cerdyn rhent yn unrhyw un o ganghennau’r Swyddfa Bost ledled y DU neu mewn unrhyw siop gyfleustra sy’n arddangos logo PayPoint.

Os oes angen cerdyn rhent newydd arnoch, anfonwch ebost i [email protected] neu codwch y ffôn.

Talu yn y banc

Gallwch ddefnyddio eich Llyfr Talu i Mewn yn unrhyw un o ganghennau Banc Barclays. Os oes angen Llyfr Talu i Mewn newydd arnoch, anfonwch ebost i [email protected] neu codwch y ffôn.

Talu ag arian parod/cerdyn yn ein swyddfa

Mae ein derbynfa ar gau ar hyn o bryd nes y clywch yn wahanol, oherwydd y pandemig Covid-19.

Ydych chi’n cael trafferth talu eich rhent mewn pryd?

Os ydych chi, mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni fel y gallwn eich helpu i ddod yn ôl i drefn. Gallwch gysylltu â ni drwy ebostio [email protected] neu ein ffonio ar 01437 763688. Gallwch hefyd fynd i’n tudalen Budd-daliadau i gael help a chyngor am fudd-daliadau a materion ariannol eraill.

 

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →