Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru, sy’n rhan o Grŵp ateb, yn gosod ramp newydd i wella mynediad i Neuadd y Ddinas yn Nhyddewi

Mewn ymdrech barhaus i wneud mannau cymunedol yn fwy cynhwysol a hygyrch, bu Cyngor Dinas Tyddewi yn cydweithio’n ddiweddar â Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru, sef un o is-gwmnïau Grŵp ateb, i wella’r Parth Cymunedol sydd yng nghefn Neuadd y Ddinas. Gan gydnabod yr angen i wella mynediad, yn enwedig ar gyfer pobl ag anawsterau symud, aeth Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru ati i sicrhau bod modd i bawb fwynhau’r cyfleuster.

Cafodd y prosiect ei arwain gan Mike a Louis a fu’n gweithio’n ddiwyd am sawl wythnos – boed law neu hindda! Mae eu hymroddiad wedi talu ar ei ganfed, oherwydd mae’r ramp newydd yn ei gwneud yn haws o lawer i bobl fynd i mewn i’r Parth Cymunedol ac mae’n sicrhau bod modd i drigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd fwynhau’r cyfleuster.

Meddai Simon Mann, y Clerc: “Rydym wrth ein bodd â’r ramp newydd sydd wedi gwneud cymaint i wella hygyrchedd yng nghefn y neuadd. Mae’r gwahaniaeth y mae’r ramp wedi’i wneud wedi bod yn amlwg iawn adeg ein boreau coffi, yn enwedig ar gyfer pobl sy’n defnyddio fframiau neu gymhorthion cerdded.”

Mae’r prosiect hwn yn dangos beth all ddigwydd pan fydd sefydliadau lleol yn cydweithio â’i gilydd ac yn rhannu eu brwdfrydedd ynghylch bod yn gynhwysol. Nid gwella mynediad yw unig ddiben y ramp newydd—mae hefyd yn sicrhau bod pawb, waeth a oes ganddynt anawsterau symud neu beidio, yn gallu cymryd rhan ym mywyd y gymuned.

Pe baech chi, neu pe bai pobl yr ydych yn eu hadnabod, yn gallu elwa o waith i wella hygyrchedd, mae croeso i chi gysylltu â Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru i gael gwybod mwy.

Cyhoeddwyd 16/10/2024