Gohiriwyd ….

Yn dilyn cyhoeddiadau diweddaraf Llywodraeth Cymru a’r holl sôn ar hyn o bryd am gyfraddau trosglwyddo uchel yn y gymuned yn Sir Benfro, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i ohirio’r Digwyddiad Mawr i Gwsmeriaid. Roeddem wedi bwriadu cynnal y tri digwyddiad yn ystod mis Tachwedd, ond byddwn yn eu cynnal yn ystod gwanwyn 2022 yn awr pan fydd y sefyllfa’n well o lawer, gobeithio.

Rydym yn sylweddoli y bydd y cwsmeriaid a oedd yn bwriadu mynychu’r digwyddiadau hyn yn siomedig o glywed y newydd hwn.

Pan fydd gennym ddyddiadau newydd, byddwn yn ceisio cysylltu â phawb oedd wedi archebu lle yn y tri digwyddiad.

Hoffai pob un ohonom yn ateb ddiolch i chi am eich amynedd ac am eich cefnogaeth barhaus.

Cyhoeddwyd: 09/11/2021