Canllawiau ynghylch trefnu Parti Stryd ar gyfer y Coroni

Ym mis Mai eleni, bydd Ei Fawrhydi’r Brenin a’i Mawrhydi y Frenhines Gydweddog yn dathlu Penwythnos eu Coroni (beth yw Coroni)

I ddathlu, mae cymunedau’n cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn dau ddigwyddiad yn ystod gŵyl banc arbennig, sef penwythnos hir o ddydd Sadwrn 6 Mai tan ddydd Llun 8 Mai 2023.

Cinio Mawr y Coroni – Dydd Sul 7 Mai 2023

Caiff cymdogion a chymunedau ar draws y Deyrnas Unedig eu gwahodd i fwyta a mwynhau yng nghwmni ei gilydd yng Nghiniawau Mawr y Coroni ddydd Sul 7 Mai 2023, er mwyn dathlu a dangos cyfeillgarwch ar hyd a lled y Deyrnas Unedig. Boed yn baned o de gyda chymydog neu’n barti stryd, bydd Cinio Mawr y Coroni yn dod â’r dathliadau i’ch cymdogaeth a bydd yn ffordd wych o ddod i adnabod eich cymuned ychydig yn well.

Yr Help Llaw Mawr – Dydd Llun 8 Mai 2023

Bydd yr Help Llaw Mawr yn annog pobl i roi cynnig drostynt eu hunain ar wirfoddoli ac i ymuno yn y gwaith sy’n cael ei wneud i gynorthwyo eu hardaloedd lleol. Nod yr Help Llaw Mawr yw defnyddio gwirfoddoli i ddod â chymunedau ynghyd a chreu gwaddol o ran gwirfoddoli a fydd yn parhau yn dilyn Penwythnos y Coroni. Beth y byddwch chi’n gwirfoddoli ei wneud ddydd Llun?

Partïon Stryd

Os ydych yn ystyried cynnal parti stryd, mae yna rai pethau y bydd angen i chi eu hystyried.

Ewch i https://www.streetparty.org.uk/ i gael ambell gyngor a gweld ambell ganllaw ynghylch cynllunio eich digwyddiad.

Ewch i https://www.gov.uk/government/publications/your-guide-to-organising-a-street-party/your-guide-to-organising-a-street-party i weld y gwir a’r gau ynghylch trefnu parti.

Os ydych yn bwriadu gofyn i Gyngor Sir Penfro am ganiatâd i gau ffordd, bydd angen i chi anfon cais cyn gynted ag sy’n bosibl i [email protected].

Yn olaf, cofiwch roi gwybod i ni, yn enwedig os ydych yn bwriadu gofyn i’r Cyngor gau ffordd. Anfonwch ebost atom [email protected]

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’ch Tîm Cymorth o ran Tai.

Cyhoeddwyd: 14/04/2023