Gwasanaeth atgyweirio eiddo a chyflawni gwaith ar eiddo gwag – Cyfle i ennill contract

Mae Grŵp ateb yn awyddus i benodi contractwyr i Gytundeb Fframwaith 3 blynedd, gyda’r posibilrwydd o ymestyn y cytundeb am 2 flynedd arall fesul cyfnod o 12 mis.

Rydym yn chwilio am gontractwyr sydd â hanes amlwg o sicrhau arfer gorau wrth gyflawni contractau tebyg, ac sy’n gallu gweithio’n rhagweithiol i’n cynorthwyo i wireddu ein hagenda gymdeithasol ac amgylcheddol yn ein cymunedau.

Rhagwelir y bydd gwaith yn cael ei ddyrannu i gontractwyr drwy ‘gontractau cylchynol yn ôl y gofyn’. Bydd y rhaglen waith yn cynnwys Darparu Gwasanaeth Atgyweirio Eiddo a Chyflawni Gwaith ar Eiddo Gwag (stoc ateb o ran tai).

Rhagwelir y bydd y Fframwaith yn werth tua £1.5 miliwn y flwyddyn.

Digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr

Caiff contractwyr sydd â diddordeb eu gwahodd i fynychu digwyddiad ‘Cwrdd â’r Prynwr’ a gynhelir ddydd Mercher 26 Gorffennaf 2023 yng Nghanolfan Arloesedd y Bont, Doc Penfro.

Bydd y diwrnod yn gyfle i gontractwyr sydd â diddordeb gwrdd â chynrychiolwyr Grŵp ateb, a fydd yn cyflwyno trosolwg o’r fframwaith sydd ar ddod fel eich bod yn deall ein gofynion.

Bydd yna sesiwn holi ac ateb ar ôl y cyflwyniad. Drwy gynnig y cyfle hwn, rydym yn gobeithio y bydd contractwyr yn gallu dangos beth sy’n bosibl yn y farchnad ar hyn o bryd ac y byddant yn gallu helpu i gadarnhau ein gofynion wrth i ni symud ymlaen.

I fynegi eich diddordeb mewn mynychu ein digwyddiad ‘Cwrdd â’r Prynwr’, anfonwch ebost i [email protected]

Yr amser a’r dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb yw 5pm ddydd Llun 24 Gorffennaf 2023.

Nodwch mai dim ond ar y diwrnod hwnnw y bydd y digwyddiad ‘Cwrdd â’r Prynwr’ yn cael ei gynnal, a bod croeso i bob cyflenwr sydd â diddordeb fynychu.

Nodwch mai o’u gwirfodd y bydd cyflenwyr yn mynegi diddordeb, ac na fydd y sawl a allai fod yn cyflwyno tendr ar eu hennill nac ar eu colled o fod yn rhan o’r digwyddiad ‘Cwrdd â’r Prynwr’. At hynny, ni fydd unrhyw drafodaethau sy’n digwydd yn ystod y diwrnod yn rhan o unrhyw broses dendro ffurfiol. Mae Grŵp ateb yn cadw’r hawl i newid ei ofynion cyn i’r Hysbysiad ynghylch Contract gael ei gyhoeddi.

Rhagor o wybodaeth…

Rydym yn awyddus i benodi hyd at bedwar contractwr i Gytundeb Fframwaith 3 blynedd (gyda’r posibilrwydd o ymestyn y cytundeb am 2 flynedd arall) ar gyfer gwaith a fydd yn golygu Darparu Gwasanaeth Atgyweirio Eiddo a Chyflawni Gwaith ar Eiddo Gwag mewn eiddo domestig y mae ateb yn berchen arno.

Caiff enghreifftiau o’r amrywiaeth o waith eu rhestru isod –

  • Llwybrau, grisiau a lloriau caled
  • Ffenestri to
  • Gwaith draenio
  • Estyll tywydd, cafnau bargod a pheipiau dŵr
  • Atgyweirio cynteddau/Gosod cynteddau newydd
  • Rhoi wyneb newydd ar ffyrdd
  • Gweithio gydag asbestos/Symud asbestos o eiddo
  • Gosod ystafelloedd ymolchi
  • Gwaith saer
  • Addurno – mewnol ac allanol
  • Glanhau eiddo’n drylwyr/Glanweithio
  • Draenio/Clirio
  • Gwaith trydanol
  • Ymdrin â ffenestri
  • Gosod lloriau/finyl/carpedi
  • Gwaith ar sylfeini
  • Gosod deunydd inswleiddio mewnol/allanol ar waliau
  • Gosod ceginau
  • Gwaith tirlunio/coed/glaswellt
  • Gwaith saer cloeon
  • Gwaith saer maen
  • Chwilio am nodwyddau a phethau miniog eraill
  • Gwaith yn ymwneud â Grantiau Addasiadau Ffisegol/Gwaith addasu
  • Rheoli plâu
  • Gwaith plymer
  • Glanhau/Clirio eiddo
  • Rendro/Plastro
  • Atgyweirio toeau/Gosod toeau newydd
  • Sgaffaldau
  • Clirio gwastraff yn gyffredinol
  • Cynnal arolygon â drôn

Rhagwelir y bydd Hysbysiad ynghylch Contract yn cael ei gyhoeddi ar GwerthwchiGymru ar 4 Awst 2023, ond gallai’r dyddiad hwnnw newid.

Cyhoeddwyd: 03/07/2023