Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru yn ymweld ag un o ddatblygiadau tai Grŵp ateb

Roedd yn bleser gennym groesawu Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru, Julie James AS, i’n datblygiad tai rhent cymdeithasol yn Nhyddewi ddydd Llun. Cafodd y Gweinidog gyfle i weld y datblygiad y mae disgwyl iddo groesawu ei ddeiliaid cyntaf ym mis Awst / Medi eleni. Cyhoeddodd y Gweinidog ddull newydd o fynd i’r afael ag “argyfwng ail gartrefi” Cymru, y mae tair elfen yn perthyn iddo. Nod y cynllun newydd yw sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael cartref fforddiadwy o safon – sy’n rhywbeth yr ydym yn falch o fod yn ei gyflawni’n barod. Yna, cyfarfu ag aelodau o dîm ateb, Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Solfach a chynrychiolwyr o Gyngor Sir Penfro.

Mae ein datblygiad yn Nhyddewi a’n gwaith gydag Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Solfach ymhlith nifer o fentrau y mae Grŵp ateb yn ymwneud â nhw er mwyn darparu mwy o dai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig/arfordirol.

“Rydym yn gobeithio, gyda chymorth parhaus Llywodraeth Cymru, ein partneriaid mewn awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill, y bydd Grŵp ateb yn parhau i dorri tir newydd o safbwynt creu atebion gwell o ran byw ar gyfer pobl a chymunedau’r gorllewin.” Meddai Nick Hampshire, Prif Weithredwr Grŵp ateb

Mae disgwyl y bydd Grŵp ateb yn dechrau gosod ei 38 o gartrefi newydd yn Nhyddewi ym mis Awst eleni. Mae’r cartrefi yn cynnwys cymysgedd o lety ar gyfer pob math o anghenion ac maent wedi’u hadeiladu i safon uchel gan y contractwr a benodwyd gennym, sef Morgan Construction Wales. Gyda chymorth Grant Tai Cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru bydd y cartrefi hyn yn cael eu gosod drwy fenter gosod tai i bobl leol, a gytunwyd gyda Chyngor Sir Penfro a Chyngor Dinas Tyddewi, i’r sawl sydd ar restr aros Cartrefi Dewisedig Sir Benfro. Mae’n aml yn anodd dod o hyd i gartrefi sydd â rhenti fforddiadwy mewn ardaloedd megis Tyddewi, felly bydd y prosiect hwn yn helpu i roi cyfleoedd i bobl leol yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.

“Rydym yn edrych ymlaen at osod y cartrefi newydd hyn yn ystod y misoedd sydd i ddod. Mae’r prosiect hwn wedi cymryd blynyddoedd i ddwyn ffrwyth, ac rydym yn ddiolchgar i’r holl bartneriaid sydd wedi ein helpu ar hyd y ffordd. Rydym yn gwybod y bydd y datblygiad hwn yn ychwanegiad gwerthfawr at yr opsiynau o ran tai sydd ar gael i’r gymuned.” Nick Hampshire, Prif Weithredwr Grŵp ateb

Mae Grŵp ateb, Cyngor Sir Penfro a Llywodraeth Cymru yn cydweithio â’i gilydd ar nifer o fentrau newydd i greu mwy o dai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig yn y gorllewin. Llwyddodd ateb a Chyngor Sir Penfro i gael cyllid er mwyn cynnig rhywfaint o gymorth i bartneriaeth newydd o’r enw ‘Partneriaeth Tai Gwledig Sir Benfro’. Bydd y prosiect yn cyflogi Swyddog Galluogi Tai Gwledig a fydd yn gweithio gyda chymunedau lleol i’w cynorthwyo i gael gafael ar dai fforddiadwy lleol i ddiwallu eu hanghenion. Mae llawer o gymunedau gwledig yn mynd yn llai bywiog oherwydd bod pobl yn symud i ffwrdd i chwilio am waith ac oherwydd bod tai yn costio cymaint, sy’n gorfodi pobl ifanc i chwilio am gartrefi mewn ardaloedd eraill. Bydd y bartneriaeth yn gweithio gyda rhwydwaith ehangach Cymru o Swyddogion Galluogi Tai Gwledig i hybu cyfleoedd i ddatblygu dulliau lleol o ddatrys problemau tai.

“Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau’r bartneriaeth newydd y bwriedir iddi helpu cymunedau gwledig yn uniongyrchol i’w helpu eu hunain i greu opsiynau cynaliadwy o ran tai am genedlaethau i ddod. Pan fydd Swyddog Galluogi Tai Gwledig Sir Benfro wedi cael ei benodi, bydd yn gweithio gyda Bwrdd Partneriaeth Tai Gwledig Sir Benfro i hyrwyddo, annog a galluogi tai gwledig fforddiadwy. Rydym yn gobeithio y bydd cymunedau Sir Benfro yn gweithio gyda ni i sicrhau bod y bartneriaeth hon yn un a fydd yn para am amser hir.” Cynghorydd Michelle Bateman, Aelod y Cabinet dros Dai.

Yn y llun uchod. Nick Hampshire | Prif Weithredwr Grŵp ateb, Y Cynghorydd Michelle Bateman | Aelod y Cabinet dros Dai yng Nghyngor Sir Penfro, Josh Phillips | Cadeirydd Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Solfach, Will Lloyd Davies | Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Grŵp ateb.

Mae Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Solfach yn enghraifft wych o fenter a ddatblygwyd yn lleol. Mae problemau Solfach o ran tai yn gwaethygu wrth i brisiau tai a’r galw am dai gynyddu oherwydd lleoliad delfrydol y pentref. Cafodd Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Solfach ei sefydlu ar ôl i bobl leol ddod yn ymwybodol o’r broblem, a gofynnodd i Gyngor Sir Penfro a Grŵp ateb am help. Yn rhan o ddull gweithredu newydd yng Nghymru, bydd tua 18 o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu yn Solfach gan ddefnyddio cytundeb tir / grant arloesol rhwng Cyngor Sir Penfro, ateb ac Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Solfach. Bydd yr elfen grant sy’n rhan o’r cynllun yn deillio o incwm Cyngor Sir Penfro o’r dreth ar gyfer perchnogion ail gartrefi, a bydd Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Solfach yn arwain y polisi gosod tai a’r gwaith o sicrhau cynaliadwyedd y cartrefi yn y dyfodol, gyda chymorth o ran rheoli gan Grŵp ateb. Gyda’n gilydd, rydym yn bwriadu sicrhau bod y cynllun hwn yn gwneud gwahaniaeth i’r cartrefi sydd ar gael i bobl leol Solfach sydd am aros yn eu cymuned leol ac sydd am helpu i’w chynnal.

Cyhoeddwyd: 08/07/2021