ateb yn ennill gwobr o fri, sef Gwobr Wythnos Plymwyr o Safon y Gymdeithas Contractwyr Plymio a Gwresogi, yn y categori ‘Croesawu Technoleg’

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Grŵp ateb wedi’i enwi yn enillydd Gwobr Wythnos Plymwyr o Safon y Gymdeithas Contractwyr Plymio a Gwresogi (APHC), yn y categori ‘Croesawu Technoleg’. Caiff y wobr ei noddi gan BES.

Mae’r gydnabyddiaeth genedlaethol hon yn clodfori ymrwymiad ateb i arloesi, a’n hymroddiad i wella gwasanaethau drwy ddefnyddio technoleg sy’n torri tir newydd. Yn rhan o’r wobr, mae ateb wedi cael bwndel o gynnyrch Cura gwerth dros £250 ynghyd â thystysgrif a thlws a fydd yn cael eu harddangos yn ein storfeydd newydd mewn partneriaeth â Jewson.

Yn ateb, rydym yn ymdrechu’n barhaus i ddarparu gwasanaethau yn y modd gorau posibl, gan sicrhau ein bod yn cynnig y canlyniadau gorau un i’n cwsmeriaid. Mae ennill y wobr hon yn amlygu ymdrechion gwych ein timau wrth iddynt archwilio a gweithredu atebion technolegol er mwyn ymdopi â’r heriau sy’n codi ym maes tai yn yr oes sydd ohoni.

Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae tîm gwresogi a phlymio ateb ynghyd â thîm cydymffurfio ateb wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Propeller, sef cwmni darparu meddalwedd, i gyflawni tri nod allweddol:

  • Sicrhau’r lefel uchaf posibl o gydymffurfio ar draws holl gartrefi ateb yn unol â deddfwriaeth, gan gadw cwsmeriaid yn ddiogel yn eu cartrefi.
  • Gwella’r siwrnai i gwsmeriaid, peirianwyr yn y maes, a’r timau gweinyddu mewnol.
  • Gwella arbedion effeithlonrwydd o fewn y timau pryd bynnag y bo modd.

Diolch i’r ffordd y mae ein systemau digidol yn gweithio, mae ein rhaglen ar gyfer rhoi gwasanaeth i systemau yn sicrhau bod ein statws o ran cydymffurfio’n cyrraedd rhwng 98% a 100% yn gyson.

Meddai Antony James, Pennaeth Eiddo ateb:

“Mae ein perthynas â Propeller yn ceisio gwella’n barhaus y modd yr ydym yn cyflawni ein tri nod allweddol. Ond nid yw’n brosiect sy’n aros yn ei unfan. Rydym yn bwriadu awtomeiddio ymhellach y modd yr ydym yn cyfathrebu â’n cwsmeriaid, gan gyflwyno sianelau newydd ac awtomeiddio’r cyfathrebu dwy ffordd sy’n digwydd.

“Wrth i feddalwedd newydd gael ei datblygu, byddwn yn mynd ati i weld sut y gallwn ei defnyddio wrth weithredu fel bod ein cwsmeriaid, ein timau mewnol a’n peirianwyr yn y maes yn gallu elwa ohoni.”

Diolch o galon i APHC a BES am y gydnabyddiaeth anhygoel hon, a llongyfarchiadau i bawb arall a enillodd wobrau ac a gafodd eu henwebu am eu cyfraniadau i’r diwydiant.

Cyhoeddwyd: 02/12/2024