Gwybodaeth bwysig am broblemau gyda thaliadau drwy ddebyd uniongyrchol dros wyliau’r Pasg

Rydym wedi cael problemau technegol wrth gasglu taliadau drwy ddebyd uniongyrchol. Ni fydd unrhyw daliadau a oedd i fod i ddigwydd rhwng dydd Gwener 29 Mawrth a dydd Gwener 5 Ebrill 2024 wedi cael eu casglu.

Bydd y taliadau hynny’n cael eu casglu’n awr rhwng dydd Mercher 10 Ebrill 2024 a dydd Llun 15 Ebrill 2024.

Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau, mae croeso i chi ffonio 0800 854 568 neu lenwi’r ffurflen ar gyfer cysylltu â ni.

Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra – roedd y broblem y tu hwnt i’n rheolaeth ni.

Cwestiynau Cyffredin

C: Caiff fy rhent ei dalu o’m cyfrif drwy ddebyd uniongyrchol ar y 30ain o bob mis. A fydd y broblem hon wedi effeithio arnaf i?

A: Bydd. Effeithiodd y broblem ar unrhyw daliadau drwy ddebyd uniongyrchol a oedd i fod i ddigwydd rhwng 29 Mawrth a 5 Ebrill. Bydd eich rhent yn cael ei gymryd yn awr rhwng 10 Ebrill a 15 Ebrill 2024.

 

C: Roedd fy nhaliad drwy ddebyd uniongyrchol i fod i ddigwydd ar 30 Mawrth, a gallaf weld ar fy nghyfriflen banc ei fod wedi’i gymryd ddydd Mawrth 2 Ebrill yn lle hynny. Oes angen i fi wneud unrhyw beth?

A: Yn ôl ein banc ni, ni ddigwyddodd unrhyw daliadau rhwng dydd Gwener 29 Mawrth a dydd Gwener 5 Ebrill 2024. Os ydych yn credu bod eich taliad wedi’i gymryd (a bod y taliad i fod i ddigwydd rhwng dydd Gwener 29 Mawrth a dydd Gwener 5 Ebrill 2024), dylech gysylltu â ni.

 

C: Rwy’n poeni na fydd gen i ddigon o arian yn fy nghyfrif banc i dalu fy rhent.

A: Cysylltwch â ni os ydych yn poeni. Bydd angen i’ch rhent gael ei dalu o hyd, ond gorau oll os gallwch gysylltu â ni cyn gynted ag sy’n bosibl.

 

Cyhoeddwyd: 08/04/24