Hanes Cudd Sir Benfro

Mae ateb, mewn partneriaeth â phrosiect REACH Cymru, y Brifysgol Agored ac Amgueddfa Cymru, yn cynnal sesiwn ddifyr a chyfeillgar i archwilio’r dreftadaeth a’r diwylliant lleol sy’n bwysig i chi.

Bydd sesiwn gyntaf Hanes Cudd Sir Benfro yn cael ei chynnal yn yr Ystafell Goffa, Neuadd y Ddinas, Tyddewi ddydd Mercher, 31 Mai rhwng 12pm a 2pm a bydd yn cynnwys cinio bys a bawd am ddim! Dewch draw – does dim angen i chi gadw lle.

I gael gwybod mwy, anfonwch ebost at Julia: [email protected]

Cyhoeddwyd: 23/05/2023