Isambard Gardens: ateb yn dathlu ennill y wobr ‘Datblygiad Tai Cymdeithasol Mawr Gorau’ am yr ail dro yn olynol

Mae ateb, ar y cyd â Hale Construction, yn falch iawn o gyhoeddi bod ei ddatblygiad yn Isambard Gardens yn Neyland wedi’i anrhydeddu â’r wobr ‘Datblygiad Tai Cymdeithasol Mawr Gorau’ ar gyfer Cymru, sef un o Wobrau Rhagoriaeth Adeiladu’r LABC y mae bri mawr yn perthyn iddi. Mae hynny’n golygu bod ateb wedi dod i’r brig yn y categori hwn am yr ail dro yn olynol.  

Mae’r gamp hon yn dilyn ein llwyddiant blaenorol yn Three Meadows, Hwlffordd, sy’n dangos ein hymrwymiad i ddatblygu tai cymdeithasol o safon uchel. 

Mae Isambard Gardens yn Neyland yn gymuned lewyrchus sy’n cynnig cymysgedd o dai a fflatiau y bwriedir iddynt fod yn fannau cysurus a chynaliadwy i fyw ynddynt.  

Hale Construction oedd yn gyfrifol am wireddu’r cynlluniau. Roedd y prosiect yn golygu dylunio ac adeiladu 33 o anheddau yn ystod tri cham, sy’n cynnwys fflatiau ag un ystafell wely; byngalos; a thai â dwy, tair a phedair ystafell wely.  

Roedd y datblygiad hefyd yn cynnwys nodweddion hanfodol megis lleoedd parcio, gwaith tirlunio, muriau cynhaliol byw, gwaith draenio a gwaith peirianyddol cysylltiedig yn ymwneud â phriffyrdd. Cafodd y cartrefi eu hadeiladu gan ddefnyddio technegau ffrâm goed wedi’i hinswleiddio ymlaen llaw. Maent yn adlewyrchu manteision dulliau adeiladu modern oddi ar y safle ac yn cynnwys toeau ffotofoltäig a wnaed o lechi wedi’u hailffurfio, sy’n dangos ymrwymiad i gynaliadwyedd ac arloesedd. 

Chwaraeodd Jonathan Cole, Rheolwr Tir ateb, ran flaenllaw yn y gwaith o wireddu’r datblygiad, ac meddai wrth ymfalchïo yn y gamp: “Rydym yn falch dros ben o’r gydnabyddiaeth y mae Isambard Gardens wedi’i chael. Mae’r gamp hon yn brawf o waith caled ac ymroddiad aelodau ein tîm, ac o’u brwdfrydedd ynglŷn â chreu cartrefi rhagorol i’n cwsmeriaid. Rydym yn ddiolchgar tu hwnt i bawb a fu’n ymwneud â’r prosiect hwn.” 

Bydd yr holl enillwyr rhanbarthol yn mynd ymlaen i’r rownd derfynol a fydd yn cael ei chynnal ddydd Gwener 19 Ionawr 2024.

Cyhoeddwyd: 12/10/2023