Lansio cyfeiriadur newydd ar gyfer gwasanaethau gofal a chymorth annibynnol bychain

Mae prosiect Catalyddion Gofal, a gefnogir gan CGGSB, PLANED a Chyngor Sir Penfro, wedi lansio cyfeiriadur newydd sy’n arddangos amrediad gynyddol o ddarparwyr gwasanaethau gofal a chymorth annibynnol bychain yn Sir Benfro.

Nod y fenter gyffrous hon yw cynnig dewis gwell o wasanaethau lleol a phersonoledig i bobl y mae angen ychydig help arnynt i fyw eu bywyd oherwydd eu hoedran, salwch neu anabledd.  Caiff yr holl wasanaethau eu rhedeg gan bobl leol ar raddfa fach, a gallant helpu gydag unrhyw beth o ofal personol neu help yn y cartref, i fanteisio ar weithgareddau cymunedol a chanlyn hobïau.  Mae’r ffaith eu bod yn fach yn golygu y gallant gynnig yr amser a’r cysondeb i feithrin perthnasoedd a dealltwriaeth go iawn gyda’r bobl y maent yn eu cynorthwyo.

Mae’r holl ddarparwyr yn y cyfeiriadur wedi ymrwymo i safon ansawdd a rennir ac maent wedi cael cymorth arbenigol gan raglen Catalyddion Gofal.

I weld y cyfeiriadur ac i gael gwybod mwy, trowch at:  www.planed.org.uk/catalysts-for-care-directory-of-care-and-support-services-in-pembrokeshire/

Os ydych chi’n teimlo’n angerddol am helpu eraill ac os oes gennych chi ddiddordeb mewn sefydlu eich gwasanaeth gofal neu gymorth eich hun, cysylltwch â [email protected] / 07535 810003, neu trowch at:  www.planed.org.uk/projects/catalysts-for-care/

Ariannir Catalyddion Gofal trwy raglen LEADER a darparir arian cyfatebol gan Bartneriaeth Gofal Gorllewin Cymru.

Cyhoeddwyd: 03/12/2020