Llongyfarchiadau i Jane a Paul, cwsmeriaid Rhentu i Berchnogi cyntaf ateb sydd wedi prynu eu cartref.

Roedd y cynllun Rhentu i Berchnogi yn eich galluogi i rentu eich cartref a chael 25% o’r rhent a dalwyd gennych yn ystod y denantiaeth a 50% o’r cynnydd yng ngwerth yr eiddo yn ystod y cyfnod y buoch yn ei rentu (os oedd yna gynnydd o gwbl) i’w ddefnyddio fel blaendal tuag at brynu’r eiddo.

Ymunodd Jane a Paul â’r cynllun bron bedair blynedd yn ôl a buont “yn llythrennol yn gwylio’r tai hyn yn cael eu hadeiladu,” meddai Jane. “Es i mewn i’r swyddfa werthu i gael rhagor o wybodaeth, ond ar y pryd doedd dim blaendal gennym i allu prynu unrhyw beth. Ychydig yn ddiweddarach, ar ôl i ateb brynu’r tai hyn, cofiodd y menywod amdanaf. Gwnaethant fy ffonio a dweud wrthyf am gysylltu ag ateb gan fod modd iddyn nhw ein helpu drwy’r cynllun newydd yma.”

Meddai Paul, “Roedden ni mor lwcus; heb yr help yma, byddai wedi cymryd mwy o lawer o amser ac wedi bod yn fwy anodd o lawer i ni fod yn berchen ar dŷ.”

Meddai Jane, “Mae’n golygu cymaint i ni bod gennym gartref rydym yn berchen arno, a bod gennym do rydym yn berchen arno uwch ein pen. Mae hefyd yn rhoi sefydlogrwydd i Emily-Rose a Harri (y plant). Gallwn gynllunio ar gyfer y dyfodol yn awr gan wybod pa ysgolion y gallant fynd iddynt, gobeithio, a gwybod y bydd modd ryw ddydd i ni adael y tŷ iddyn nhw.”

Meddai Mark, Cyfarwyddwr Gweithredol Cwsmeriaid ateb,

“Rwy’n falch iawn dros Paul, Jane a’r plant. Rydym am greu atebion gwell o ran byw i bobl a chymunedau’r gorllewin ac mae hynny’n cynnwys cynnig perchentyaeth cost isel fel opsiwn yn lle rhentu, pryd bynnag a ble bynnag y gallwn.”

Mae’r cynllun Rhentu i Berchnogi wedi dod i ben erbyn hyn ond mae yna gynlluniau eraill ar gael i’ch helpu i brynu cartref. I gael gwybod mwy, ewch i https://llyw.cymru/cynlluniau-cymorth-i-brynu-cartref.

Yn y llun: Angela o Dîm Cymorth i Gwsmeriaid ateb yn cyflwyno blodau a siocledi i’r teulu.

Cyhoeddwyd: 21/04/2022