Llongyfarchiadau i Linzi – ein Seren Newydd!

Llongyfarchiadau mawr i Linzi, ein Cydlynydd Cynnal a Chadw a Chydymffurfio, sydd wedi ennill y Wobr i Seren Newydd yng Ngwobrau Diogelwch a Chydymffurfio y Gymdeithas Gweithwyr Proffesiynol ym maes Diogelwch a Chydymffurfio (ASCP) eleni.

Mae sicrhau diogelwch ein cwsmeriaid yn un o’n prif flaenoriaethau, ac mae Linzi wedi cael ei chydnabod am ei gwaith caled a’i hymroddiad. Da iawn, Linzi!

Meddai Nick Hampshire, Prif Weithredwr Grŵp ateb:
“Mae Linzi wedi bod yn aelod rhagweithiol o dîm ateb bob amser, ond mae ei gwaith ar ein prosiect cydymffurfio gyda Propeller yn golygu ei bod wedi gwneud llawer mwy na’r disgwyl. O’r dechrau’n deg, gwelsom fod Linzi yn awyddus iawn i sicrhau bod y prosiect yn llwyddiant, a gwnaeth waith manwl dros ben i sicrhau bod y data sensitif ynghylch cydymffurfio’n gywir a’i fod yn cael ei drosi heb unrhyw wallau. Mae wedi cydweithio’n dda â’n partneriaid ac wedi creu tîm newydd sbon sy’n rhannu’r un weledigaeth â hi i wneud ein gorau glas dros ein cwsmeriaid. Mae gen i a’r sefydliad barch mawr at y gwaith y mae wedi’i gyflawni, yr ymddiriedaeth y mae wedi’i meithrin a’r brwdfrydedd y mae wedi’i ddangos yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n llawn haeddu’r wobr hon. Diolch, Linzi, am dy gyfraniad i ateb yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a llongyfarchiadau i ti!”

Gwobrau Diogelwch a Chydymffurfio’r ASCP yw’r unig wobrau sydd ar gael i dimau diogelwch a chydymffurfio yn y sector tai cymdeithasol a’r sector rheoli cyfleusterau.

Cyhoeddwyd: 27/09/2021