Llwyddiant i Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru yng Ngwobrau Iechyd a Gofal 2023

Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru oedd yn fuddugol yn y categori Tai â Gofal yng Ngwobrau Iechyd a Gofal Gorllewin Cymru eleni.

Meddai Mike Turfery (Arweinydd y Tîm Crefftwyr) a Lleucu Powell (Gweithiwr Achos) ar ôl derbyn y wobr: “Roedd yn ddigwyddiad gwych sy’n rhoi sylw i’r holl waith rhagorol sy’n digwydd ar draws y gorllewin yn y sector Iechyd a Gofal.” Meddai Mike wedyn: “Roedd yn braf cael cydnabyddiaeth am yr holl waith caled y mae’r tîm yn ei wneud.”

Mae’r wobr hon yn cydnabod person neu dîm sy’n darparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer pobl agored i niwed sy’n byw mewn unrhyw gynllun tai â chymorth.

Bydd angen i’r person neu’r tîm ddangos ei fod yn diwallu ystod o anghenion cymhleth o ran gofal a chymorth, sy’n cynnwys rhyngweithio â’r gymuned leol, bod yn awyddus i ddarparu gwasanaeth o’r safon uchaf i unigolion a’u cynorthwyo i barhau’n annibynnol.

Cafodd Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru, sy’n un o is-gwmnïau Grŵp ateb, ei lansio yn 2001 yn rhan o ymrwymiad Grŵp ateb i greu atebion gwell o ran byw ar gyfer pobl a chymunedau’r gorllewin.

Meddai Jayne O’Hara, sy’n rheoli gwasanaeth Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru, gyda balchder: “Rwy’n falch iawn dros y tîm sy’n gweithio mor galed i wella bywydau ein cwsmeriaid a gwneud popeth posibl i sicrhau eu bod yn parhau’n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi.” 

Yn yr un categori hefyd yr oedd Hanover Court, sef Cynllun Byw’n Annibynnol ateb, y mae Bill Faichney yn gofalu amdano.

Dim ond un ohonynt allai ddod i’r brig, ond gallwn ddweud yn hollol ddiffuant y gallai’r naill neu’r llall fod wedi ennill y wobr gan fod y ddau’n gwneud cymaint i’w cymunedau.

Meddai Amy Williams sy’n arwain gwasanaeth y Timau Byw’n Annibynnol: “Roedd cael dau dîm o deulu ateb yng nghategori’r wobr Tai â Gofal yn destun balchder i bawb. Mae’r ffaith ein bod wedi cael ein henwebu ar gyfer y wobr yn dangos awydd a phenderfyniad ateb a Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru i roi ein cwsmeriaid wrth wraidd pob peth a wnawn. Mae clywed am yr enghreifftiau o’r gydnabyddiaeth yr ydym yn ei chael am ymdrechu i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn gallu byw’n annibynnol a mwynhau ansawdd bywyd da, heb fawr ddim i’w cyfyngu, yn galonogol dros ben i fi fel rheolwr gwasanaeth.”

Llongyfarchiadau i bawb a gafodd eu henwebu ac i bawb a ddaeth i’r brig yn y seremoni wobrwyo eleni.

Dyma restr lawn o’r enillwyr:

  • Gwirfoddolwr y Flwyddyn – Nicola Harteveld
  • Elusen Iechyd y Flwyddyn – Gofalu, Rhannu a Rhoi Sir Benfro
  • Y Wobr Iechyd Meddwl – Dominique Williams
  • Person y Flwyddyn ym maes Gofal Sylfaenol – Laura Hugman, Sefydliad Paul Sartori
  • Cartref Gofal y Flwyddyn – Cartref Gofal Preswyl Dementia Glanmarlais
  • Aelod y Flwyddyn o Staff mewn Ysbyty – Cathy James
  • Tîm y Flwyddyn yn y Gymuned – Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Oedolion Hŷn Sir Benfro
  • Unigolyn y Flwyddyn yn y Gymuned – Lorna Faichney
  • Rhagoriaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol o Safon – Gwasanaeth Lleddfu Diabetes
  • Y Wobr i Arwr o ran Caredigrwydd/Gofal – Chris Lemm
  • Practis Meddygon Teulu y Flwyddyn – Meddygfa Llanfair, Llanymddyfri
  • Fferyllfa y Flwyddyn – Y Fferyllfa, Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg
  • Tîm Lles y Gweithlu – Tîm Datblygiad Proffesiynol a Datblygu Ymarfer Cymunedol, Nyrsio Cymunedol, Hywel Dda
  • Y Wobr Tai â Gofal – Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru
  • Y Wobr am Gyflawniad Eithriadol – Meddygfa Llanfair, Llanymddyfri
Cyhoeddwyd: 30/10/2023