Bob blwyddyn rydym yn adolygu ein rhenti a’n taliadau gwasanaeth er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gallu darparu’r gwasanaeth gorau posibl, sy’n cynnig gwerth am arian.
Mae llythyrau yn rhoi gwybod i chi am rent y flwyddyn nesaf wedi mynd yn y post heddiw (ddydd Iau 23 Ionawr) a dylent fod gyda chi’r wythnos nesaf.
Bydd y rhan fwyaf o bobl yn gweld cynnydd yn eu rhent a’u taliadau gwasanaeth eleni, ac rydym yn sylweddoli y gall hyn beri pryder i rai.
Mae ateb wedi rhoi nifer o gamau ar waith i gefnogi cwsmeriaid a allai gael trafferth gyda’r cynnydd yn y taliadau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, anfonwch air atom drwy e-bost [email protected] neu ffoniwch ni ar 0800 854 568.