Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â thenantiaid ynghylch diogelwch adeiladau

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i ymgynghori ag ystod eang o breswylwyr (tenantiaid a lesddeiliaid) er mwyn cynorthwyo’r gwaith o ddatblygu polisi ynghylch cynigion i gael Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru: Ymgynghoriad (llyw.cymru)

Mae’r cynigion yn ceisio grymuso preswylwyr drwy gryfhau eu llais yng nghyswllt materion sy’n ymwneud â diogelwch adeiladau, rhoi cyfle iddynt ymgysylltu â’u landlord a sicrhau bod rhywun yn gwrando ar eu pryderon a’u cwynion.

Felly, mae’n bwysig ein bod yn ymgynghori ag ystod eang o denantiaid a lesddeiliaid er mwyn iddynt allu mynegi eu barn am ein cynigion.

Hoffem glywed gan gymaint o denantiaid/preswylwyr ag sy’n bosibl, ond rydym hefyd yn arbennig o awyddus i sicrhau bod llais a phrofiadau tenantiaid/lesddeiliaid anabl a thenantiaid/lesddeiliaid o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu clywed.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn grwpiau ffocws er mwyn cyfrannu i’r ymgynghoriad hwn, mae croeso i chi gysylltu â [email protected]

Bydd y bobl sy’n cymryd rhan yn y grwpiau ffocws yn cael eu talu am eu hamser.

Cyhoeddwyd 13/09/22